Fe fydd gweinidogion Llywodraeth Cymru yn “cymryd rhan” mewn “gosod a chytuno ar y cylch gorchwyl” ar gyfer ymchwiliad Covid-19 ledled y Deyrnas Unedig.

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi dweud bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi “cadarnhau” mai dyma fydd yn digwydd yn dilyn cyhoeddi penodiad y Farwnes Heather Hallett i arwain yr ymchwiliad i’r pandemig.

Eisoes mae Llywodraeth yr Alban wedi ymrwymo i gynnal ymchwiliad penodol ei hun.

Ond mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fynnu y dylid craffu ar benderfyniadau Cymru o fewn ymchwiliad ar gyfer y Deyrnas Unedig.

Daw hyn wrth i Blaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol gefnogi cynnig y Ceidwadwyr ar lawr y Senedd yn galw am Ymchwiliad Penodol i Gymru.

Roedd canlyniad y bleidlais yn gyfartal – 28 o blaid a 28 yn erbyn – gyda’r Llywydd yn defnyddio ei phleidlais i bleidleisio yn erbyn cynnig pan fydd pleidlais yn gyfartal.

‘Profiad helaeth’

Mae’r Prif Weinidog wedi croesawu penodiad y Farwnes Hallet, gan ddweud bod ganddi “brofiad helaeth” o ddelio ag “ymchwiliadau cymhleth, gan gynnwys o fewn cyd-destun datganoledig”.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod o dan bwysau gan Blaid Cymru a’r Ceidwadwyr Cymreig i gynnal ymchwiliad i Gymru’n unig, ond hyd yma maen nhw wedi gwrthsefyll galwadau i wneud hynny.

Fis diwethaf, ar ôl ysgrifennu at Boris Johnson, fe gadarnhaodd Mark Drakeford ei fod wedi derbyn “cyfres o ymrwymiadau” ynglŷn â natur yr ymchwiliad cyhoeddus, a fydd yn cynnwys y llywodraethau datganoledig.

Dywedodd Mark Drakeford ei fod yn “falch bod y Farwnes Hallett wedi cael ei phenodi i arwain ymchwiliad cyhoeddus Covid-19 y Deyrnas Unedig.”

“Rwyf wedi dadlau ers tro byd pa mor bwysig yw hwn fel ymchwiliad dan arweiniad Barnwr ac mae gan y Farwnes Hallett brofiad helaeth o ddelio ag ymchwiliadau proffil uchel, sensitif a chymhleth, gan gynnwys o fewn cyd-destun datganoledig,” meddai

“Mae’r ddealltwriaeth hon o ddatganoli yn bwysig os yw’r ymchwiliad am graffu’n llawn ar benderfyniadau a chamau gweithredu Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus eraill Cymru mewn ymateb i’r pandemig.

“Rwyf hefyd yn falch bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cadarnhau y bydd Gweinidogion Cymru yn ymwneud â gosod a chytuno ar gylch gorchwyl yr ymchwiliad.

“Mae’r pandemig wedi bod – ac yn parhau i fod – yn un o’r cyfnodau anoddaf y mae’r wlad hon erioed wedi’i wynebu. Bydd penodi’r Farwnes Hallett yn sicrhau bod yr ymchwiliad yn cael ei drin mewn modd sensitif a bod teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid yn gallu derbyn atebion i’r cwestiynau y maent wedi bod yn eu gofyn.”

Galw am ymchwiliad penodol

Ar lawr y siambr heddiw (Rhagfyr 15), bu aelodau’r Senedd yn trafod cynnig y Ceidwadwyr i gynnal ymchwiliad sy’n benodol i Gymru.

Nid yw’r cynnig, sy’n galw am ymchwiliad sy’n benodol i Gymru, yn golygu y bydd rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu ar hynny – ond mae’r bleidlais gyfartal yn siŵr o gynyddu’r pwysau.

Fe wnaeth Jane Dodds, yr unig Ddemocrat Rhyddfrydol yn y Senedd, bleidleisio o blaid y cynnig ar y funud olaf.

“Er fy mod yn dal i ymddiried bod y Prif Weinidog yn parhau i wthio Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau ymchwiliad ar gyfer y Deyrnas Unedig sydd â chwmpas digonol ac sy’n ystyried yn drylwyr y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud yng Nghymru, does gen i ddim ffydd bellach y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi ystyriaeth briodol a theg i’r Senedd a Chymru,” meddai.

“Nid pwyntio bys yw pwrpas Ymchwiliad Penodol i Gymru, mae’n fodd i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol.”

Ymchwiliad Covid-19: Mark Drakeford yn derbyn “ymrwymiadau” gan Boris Johnson

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth Prif Weinidog Cymru ysgrifennu at Boris Johnson yn galw am ymgynghoriad a fyddai’n clywed pryderon pobol ledled Cymru

Prif Weinidog Cymru’n galw ar Boris Johnson i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus cyn cynnal ymchwiliad Covid-19

Mae Mark Drakeford am i Gymru fod yn rhan o ymchwiliad ledled y Deyrnas Unedig, ond mae’n galw ar Boris Johnson i roi sylw ystyrlon i Gymru