Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson wedi dod o dan y lach am wneud cyhoeddiadau ar deledu yng Nghymru sydd ond yn berthnasol i Loegr.

Roedd yr Aelod o’r Senedd Plaid Cymru, Delyth Jewell, yn dweud na ddylai Johnson gael gwneud hynny, gan ddweud ei bod hi’n “hanfodol bod y wybodaeth mae pobl yn ei chael trwy’r teledu yn gywir, lle bynnag maen nhw’n byw.”

Ar ôl i Jewell dynnu sylw i’r mater yn y Senedd ddoe (dydd Mawrth, 14 Rhagfyr), mae cyn-Gadeirydd Pwyllgor Cynghori Cymru Ofcom, Ian McCulloch Clarke, wedi dweud bod hynny yn torri rheolau’r rheoleiddiwr darlledu.

Cyfeiriodd at y cod darlledu, sy’n datgan bod “rhaid i raglenni, eitemau ffeithiol, neu bortreadau o faterion ffeithiol beidio â chamarwain y gynulleidfa’n sylweddol.”

Roedd Clarke hefyd yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru “fynnu” bod Ofcom yn cosbi achosion o dorri rheolau, a bod camau’n cael eu cymryd i osgoi achosion yn y dyfodol.

‘Rhaid cael y negeseuon hyn yn glir’

Ar Twitter nos Sul, 12 Rhagfyr, roedd Delyth Jewell yn anhapus â’r ffordd roedd darllenwr newyddion o’r BBC wedi geirio neges y Prif Weinidog Boris Johnson.

“@BBCNews – fe wnaeth eich darllenwr newyddion ddweud nawr y byddai pob person ‘Prydeinig’ yn cael cynnig brechlyn atgyfnerthu cyn diwedd y flwyddyn,” meddai.

“Dydy hi ddim yn glir os mai dyna fydd yr achos, fe wnaeth Johnson ddim ond adrodd am Loegr.

“Os gwelwch yn dda, pan mae’n dod i iechyd cyhoeddus, rhaid cael y negeseuon hyn yn glir.”

Mae Delyth Jewell hefyd yn Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, sydd wedi galw’n ddiweddar am newidiadau er mwyn amddiffyn dyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.

Angen newidiadau

Ers i’r neges honno gael ei phostio, mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi y byddan nhw hefyd yn cynnig brechlyn atgyfnerthu i bob oedolyn cymwys yng Nghymru cyn diwedd y flwyddyn.

Ond fe wnaeth Delyth Jewell godi’r mater yng Nghyfarfod Llawn y Senedd ddydd Mawrth, 14 Rhagfyr.

“Nos Sul, roedd Boris Johnson yn darlledu ar deledu Cymreig yn dweud y byddai pawb yn derbyn trydydd brechlyn erbyn diwedd y flwyddyn,” meddai.

“Ar y pryd, roedd y cyhoeddiad hwn ond yn berthnasol i Loegr, ac nid dyma’r tro cyntaf i’r Prif Weinidog wneud datganiad ar deledu Cymreig a oedd ddim yn berthnasol i ni.

Cyfeiriodd hi at gyhoeddiad ym mis Mai, pan wnaeth Boris Johnson gyhoeddi slogan newydd ar gyfer Lloegr ar deledu o gwmpas y Deyrnas Unedig, er nad oedd yn berthnasol i Gymru, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

“Mae’n glir felly bod angen newidiadau yn rheolau darlledu er mwyn sicrhau nad yw gwybodaeth anghywir yn cael ei darlledu yma, gan achosi dryswch, os nad risgiau.”

Eisoes yn torri rheolau

Ond mae Ian McCulloch Clarke, cyn-Gadeirydd Pwyllgor Cynghori Cymru Ofcom, yn dweud bod y rheolau eisoes i fod i atal hynny rhag digwydd – ac y dylen nhw fod yn cael eu gweithredu.

“Mae eisoes yn mynd yn erbyn Cod Darlledu @ofcom, [ym mharagraff 2.2.2.], i ddarlledu elfen o raglen sy’n cael ei galw’n ‘ffeithiol,’ sy’n achosi niwed drwy fod yn gamarweiniol,” meddai ar Twitter.

“Rwy’n annog [Llywodraeth Cymru] i fynnu bod Ofcom yn cymryd camau yn erbyn rheolau sydd wedi eu torri yn y gorffennol… A mynnu bod camau adferol yn cael eu cymryd i osgoi achosion yn y dyfodol.”