Colli’n ddrwg a wnaeth Abertawe yn erbyn Nottingham Forest y pnawn yma gyda’r cyn-reolwr Steve Cooper yn dathlu buddugoliaeth 4-1 dros ei hen glwb.

Digwyddodd y sgorio i gyd yn ystod ail hanner llawn cyffro, wrth i Philip Zinckernagel a Lewis Grabban roi Forest ddwy gôl ar y blaen cyn i Joel Piroe roi gobaith i Abertawe ychydig wedi’r awr.

Ond yn sgil camgymeriad gan y golwr Ben Hamer, llwyddodd Brennan Johnson i adfer mantais ddwy-gôl yr ymwelwyr chwe munud yn ddiweddarach, gyda gôl arall gan yr eilydd Cafu yn eiliadau olaf y gêm yn selio’r fuddugoliaeth ysgubol.

Dim ond un gêm mewn 13 mae Steve Cooper wedi ei golli ers dod yn rheolwr Forest ym mis Medi.