Fe fydd Morgannwg a’r 17 sir arall sy’n chwarae criced dosbarth cyntaf, timau rhanbarthol gêm y merched a Chymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol (PCA) yn ymuno â boicot y byd pêl-droed o’r cyfryngau cymdeithasol dros y penwythnos.

Fe fydd boicot rhwng 3 o’r gloch brynhawn dydd Gwener (Ebrill 30) ac 11.59 nos Lun (Mai 3) wrth i’r byd criced a phêl-droed ymateb i gamdriniaeth hiliol ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mewn datganiad, dywed Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) “na ddylai neb orfod dioddef camdriniaeth, hiliaeth nac aflonyddu ar y cyfryngau cymdeithasol oherwydd eu bod nhw’n chwarae neu ynghlwm wrth chwaraeon proffesiynol”.

‘Neges bwerus’

“Mae camdriniaeth ar-lein o unrhyw fath yn gwbl annerbyniol ac fel clwb ac fel camp, rydym yn llwyr gefnogi’r byd pêl-droed yn eu boicot o’r cyfryngau cymdeithasol,” meddai Hugh Morris, prif weithredwr Clwb Criced Morgannwg.

“Yn drist iawn, mae’n rywbeth sydd wedi cyrraedd criced a rhaid i ni adleisio’r neges na chaiff ei oddef.

“Mae’r boicot yn anfon neges bwerus i gwmnïau’r cyfryngau cymdeithasol fod rhaid iddyn nhw wneud mwy i frwydro gwahaniaethu ar eu sianeli ac i ddefnyddwyr feddwl mwy am eu hymddygiad ar-lein.”

Ymateb

“Fel camp, rydyn ni’n unedig yn ein hymrwymiad i frwydro hiliaeth a fyddwn ni ddim yn godde’r math o gamdriniaeth ar sail gwahaniaethu sydd wedi dod mor amlwg ar lwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol,” meddai Tom Harrison, prif weithredwr Bwrdd Criced Cymru a Lloegr.

“Rydym yn falch iawn o ychwanegu ein llais at bawb ledled y byd chwaraeon sy’n anfon y neges y gall mwy gael ei wneud a bod rhaid gwneud mwy i ddileu casineb ar-lein.

“Gall y cyfryngau cymdeithasol chwarae rhan bositif iawn mewn chwaraeon, gan ehangu’r gynulleidfa a chysylltu cefnogwyr â’u harwyr mewn ffordd nad oedd yn bosib o’r blaen.

“Fodd bynnag, rhaid i chwaraewyr a chefnogwyr fel ei gilydd allu defnyddio’r llwyfannau hyn gan wybod nad oes perygl iddyn nhw wynebu sarhad gwarthus.”

‘Rhaid i gwmnïau’r cyfryngau cymdeithasol wneud mwy’

Yn ôl Rob Lynch, prif weithredwr Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol, mae’r mudiad yn “llwyr gefnogol” o’r boicot ac mae’n “rhaid i gwmnïau’r cyfryngau cymdeithasol wneud mwy”.

“Mae ein haelodau’n aml yn dioddef camdriniaeth ar-lein erchyll heb fawr o gosb, os o gwbl, i’r troseddwyr ac mae’n rhaid i hyn newid,” meddai.

“Mae tawelwch unedig gan chwaraewyr a’r gêm ehangach yn safiad pwerus i ddangos na fydd ein haelodau’n galluogi cwmnïau’r cyfryngau cymdeithasol, sydd wedi dod â chymaint o fudd i’r gêm, barhau i anwybyddu a methu â blaenoriaethu’r angen am ddeddfwriaeth briodol wrth warchod pobol rhag ymddygiad ar-lein sy’n gwahaniaethu.

“Rydym yn parhau i gefnogi ein haelodau wrth gydweithio fel camp i lobïo cwmnïau’r cyfryngau cymdeithasol a’r llywodraeth drwy Fil Diogelwch Ar-lein am weithredu’n gyflym i wneud y cyfryngau cymdeithasol yn lle mwy diogel i’n haelodau a’r gymdeithas ehangach.”

Sefydliadau pêl-droed yn dilyn esiampl Abertawe wrth gynnal boicot o’r cyfryngau cymdeithasol

Bydd yn dechrau am 3 o’r gloch brynhawn Gwener (Ebrill 30) ac yn dod i ben am 11.59 nos Lun (Mai 3)