Mae capten Wrecsam Shaun Pearson yn dweud bod y chwaraewyr “ar dân” i weld y clwb yn dychwelyd i’r Gynghrair Bêl-droed.

Disgynnodd y clwb o League Two yn 2008 ac maent wedi treulio’r 13 tymor ers hynny yn chwarae yn y National League.

A gyda lle yn y gemau ail-gyfle yn dal i fod o fewn gafael, mae Pearson yn gobeithio y gall Wrecsam ddod â’i cyfnod yn y gynghrair honno i ben gan ddringo’n ôl i Gynghrair Bêl-droed Lloegr.

“Un peth rwyt ti’n cael dy atgoffa ohono yma yw pa mor hir mae’r clwb wedi bod i lawr ar y lefel hon ac rydyn ni’n awyddus iawn i ddod â hynny i ben,” meddai Pearson wrth BBC Sport Wales.

“O safbwynt personol byddai’n anghredadwy arwain y clwb hwn i ddyrchafiad ac yn ôl i’r Gynghrair Bêl-droed – byddai’n gyflawniad gwych fel grŵp.

“Ac rwy’n gwybod ei fod yn ystrydeb ond rydym yn mynd un gêm ar y tro ac yn edrych ymlaen at yr un nesaf, unwaith rwyt ti yn y gemau ail-gyfle gall unrhyw un ennill [dyrchafiad].”

Gyda saith gêm yn weddill, mae Wrecsam yn nawfed yn y Gynghrair Genedlaethol, dau bwynt oddi ar y llefydd ail gyfle ond gyda gêm mewn llaw dros y rhan fwyaf o’r timau o’u cwmpas.

Bydd tîm Dean Keates yn herio Souhill Moors, sy’n yn 15fed safle, ar 1 Mai, cyn teithio i Maidenhead ar 3 Mai.