Mae tîm criced Morgannwg wedi cael hwb gyda’r newyddion fod yr Awstraliad Marnus Labuschagne wedi dychwelyd i Gymru mewn da bryd i gymryd ei le yn y tîm i herio Caint yn y Bencampwriaeth yng Nghaerdydd fory (dydd Iau, Ebrill 29).
Fe fu’r batiwr agoriadol a throellwr coes achlysurol yn chwarae i Queensland yng nghystadleuaeth ddomestig y Sheffield Shield, lle cafodd ei enwi’n chwaraewr gorau ei dîm wrth iddyn nhw ennill y darian.
Ond mae’n dychwelyd i dîm Morgannwg sydd heb fuddugoliaeth mewn tair gêm hyd yn hyn eleni.
Y Gwyddel Andrew Balbirnie sydd wedi bod yn y tîm fel chwaraewr tramor yn ei le ar ddechrau’r tymor, ond mae e wedi dychwelyd i Iwerddon ac mae Marnus Labuschagne yn dweud ei fod e’n falch o gael dychwelyd i Gymru ar ôl tymor llwyddiannus gyda’r sir yn 2019.
“Dw i wedi dweud o’r blaen, ond y bobol [sy’n gwneud y clwb yn arbennig], yr hyfforddwr a dw i wrth fy modd yn gweithio gyda Matt Maynard,” meddai wrth gynhadledd i’r wasg.
“Dw i wedi dysgu tipyn ganddo fe am fy ngêm fy hun, nid yn unig am fatio’n bersonol ond am griced yn gyffredinol hefyd, felly dw i wedi mwynhau ei gael e’n hyfforddwr.
“Ond hefyd, dw i wedi gallu mynegi fy hun a chwarae yn y modd dw i wedi bod eisiau chwarae erioed, dw i’n meddwl, ac mae cael y staff hyfforddi yn dangos i fi y galla i chwarae mewn ffordd arbennig yn un o’r prif resymau pam dw i wrth fy modd yn chwarae yma.”
Tymor a blwyddyn 2019
Cafodd Labuschagne dymor a blwyddyn i’w cofio yn 2019, wrth iddo ddod yn un o gricedwyr gorau’r byd.
Ac yntau wedi dod i Forgannwg ar gyfer hanner cynta’r tymor yn wreiddiol, llofnododd e gytundeb dwy flynedd o fewn dim o dro.
Sgoriodd e 1,114 o rediadau ar gyfartaledd o fwy na 65, gan daro pum canred a phum hanner canred.
Ac roedd ei enw yn y llyfrau hanes i Forgannwg ac i Awstralia y flwyddyn honno hefyd.
Fe oedd yr eilydd cyfergyd cyntaf erioed mewn gemau prawf, a’r chwaraewr cyntaf i Forgannwg ers Jonathan Hughes yn 2005 i daro canred yn y ddau fatiad mewn gêm, yn erbyn Swydd Gaerwrangon.
Cafodd ei enwi yng ngharfan Awstralia ar gyfer Cyfres y Lludw yn dilyn cyfergyd i Steve Smith, a fe oedd ail brif sgoriwr ei dîm yn y gyfres cyn hawlio’i le yn fatiwr rhif tri mwy parhaol yn y cyfresi canlynol yn erbyn Seland Newydd a Phacistan.
Ar ôl llofnodi cytundeb ar gyfer tymor 2020, doedd dim modd iddo fe deithio i Gymru yn sgil Covid-19 ac fe gafodd ei gytundeb ei ohirio tan 2021 a 2022.
O ran gwobrau, cafodd ei enwi’n un o bum Cricedwr y Flwyddyn gan Wisden, ac yn Chwaraewr y Flwyddyn a Chwaraewr Pencampwriaeth y Flwyddyn gan Forgannwg yn 2019.
Cydwladwyr
Mae Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg, wedi cadarnhau y bydd Michael Neser, cydwladwr Labuschagne a’i gyd-chwaraewr yn Queensland, ar gael yr wythnos nesaf ac yntau newydd lanio yng Nghymru.
Fe fydd rhaid i Forgannwg geisio llenwi’r bwlch sydd wedi’i adael gan ymadawiadau Marchant de Lange a Graham Wagg, dau o hoelion wyth y bowlio dros y tymhorau diwethaf.
Bydd Neser ar gael ar gyfer gemau’r Bencampwriaeth a gemau 50 pelawd Cwpan Royal London, ac mae’n dod â phrofiad rhyngwladol pellach i’r sir ar ôl chwarae mewn gemau undydd dros ei wlad a bod yn aelod o garfan Awstralia ar gyfer Cyfres y Lludw yn 2019.
Tra bod Labuschagne wedi sgorio 821 o rediadau yn y Sheffield Shield ar gyfartaledd o 82.10, cipiodd Neser 18 o wicedi ar gyfartaledd o 24.33 a sgorio 161 o rediadau ar gyfartaledd o 32.20.
Ac mae Labuschagne yn edrych ymlaen at gael ei gwmni yng Nghymru.
“Yn amlwg, mae mwy o fwynhad i’w gael fod gyda ni un o’m cyd-chwaraewyr o Awstralia, Michael Neser, yma ac fe fydd yn wych ei weld e’n perfformio yn yr amodau hyn.”
Gwahanol amodau yng Nghymru
Ar ôl treulio cyhyd yn chwarae yn Awstralia ac ar ôl seibiant o 18 mis a mwy ers iddo fe chwarae yng Nghymru ddiwethaf, sut mae’n teimlo am addasu i’r amodau yma eto?
“Mae’n rhaid i chi addasu’ch gêm ar gyfer gwahanol amodau,” meddai.
“Rhaid i chi ddeall yr amodau, y bowlio a pha newidiadau fydd rhaid i chi eu gwneud i’ch gêm eich hun er mwyn bod yn llwyddiannus a dod o hyd i ffyrdd o wneud yn dda.
“Felly dw i’n sicr yn credu bod angen i chi fod yn barod i newid a pheidio â chael eich dal yn chwarae un ffordd – dw i’n credu mai dyna dw i’n ei fwynhau orau am y gêm, sef fod rhaid dod o hyd i ffyrdd newydd o berfformio o hyd.
“Os nad ydych chi’n teimlo’n dda neu beth bynnag yw’r rheswm, rhaid i chi barhau i sgorio rhediadau beth bynnag, dyna’ch gwaith chi, a dod o hyd i ffyrdd o wneud hynny.”
Ymateb Morgannwg
“Mae’n braf clywed Marnus yn siarad mor bositif am Forganwg,” meddai Mark Wallace, sydd wedi diolch i Andrew Balbirnie am ei gyfraniad.
“Bydd Marnus yn cymryd lle Andrew Balbirnie yn y garfan yr wythnos hon.
“Rydyn ni wedi cael Balbo gyda ni am y tair gêm diwethaf ond mae e’n dychwelyd i Iwerddon.
“Mae wedi bod yn wych cael Balbo yma.
“Efallai nad yw e wedi cael yr effaith fyddai e wedi dymuno’i chael gyda’r bat ond oddi ar y cae, mae e wedi bod yn wych, fel roedden ni’n gwybod y bydai e.”
Bowliwr 39 oed yn erbyn chwaraewr amryddawn 45 oed
Yn ogystal â chroesawu Marnus Labuschagne yn ôl i Forgannwg, bydd y gêm yn erbyn Caint hefyd yn gyfle i weld Michael Hogan, bowliwr 39 oed Morgannwg yn herio Darren Stevens, chwaraewr amryddawn Caint sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 45 oed yr wythnos hon.
Rhyngddyn nhw, mae’r ddau wedi cipio 1,167 o wicedi dosbarth cyntaf.
Bythefnos yn ôl, cafodd Stevens ei enwi’n un o bump Cricedwr y Flwyddyn gan Wisden ac roedd e ar dân y tro diwethaf iddo fe chwarae yng Nghaerdydd, wrth gipio chwe wiced am 12 mewn 44 o belenni wrth chwalu Morgannwg o chwe wiced.
Daeth buddugoliaeth fwyaf erioed Caint yng Nghaerdydd yn 2015, a honno o 316 o rediadau.
Hogan oedd seren y sioe yn 2014, wrth i Forgannwg ennill o fatiad ac 11 o rediadau, wrth gipio pum wiced yn y naill fatiad a’r llall – y tro cyntaf iddo fe gipio deg wiced mewn gêm i Forgannwg.
Cipiodd e ddeg wiced yn y gêm yn 2017 hefyd, wrth i Forgannwg ennill o bum wiced mewn llai na thridiau.
Mae Caint un safle islaw Morgannwg yn y tabl cyn y gêm.
Carfan Morgannwg: C Cooke (capten), L Carey, K Carlson, J Cooke, J Harris, M Hogan, M Labuschagne, D Lloyd, B Root, A Salter, C Taylor, T van der Gugten, J Weighell
Carfan Caint: D Bell-Drummond (capten), J Cox, Z Crawley, M Cummins, J Denly, N Gilchrist, F Klaasen, H Kuhn, J Leaning, M Milnes, M O’Riordan, O Robinson, D Stevens