Ar ôl ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, bydd Cymru’n dechrau eu hymgyrch yn Iwerddon yn 2022.

Mae gemau’r bencampwriaeth wedi cael eu cadarnhau, a bydd y Chwe Gwlad yn dechrau ar Chwefror 5 flwyddyn nesaf.

Bydd y bencampwriaeth yn dod i ben gyda Ffrainc yn herio Lloegr ym Mharis ar y Sadwrn olaf ar Fawrth 19.

Yn y rownd gyntaf, bydd yr Alban yn chwarae Lloegr yn Murrayfield, a Ffrainc yn croesawu’r Eidal y diwrnod canlynol, ar Chwefror 6.

Mae prif weithredwr y Chwe Gwlad yn gobeithio y bydd posib cynnal y bencampwriaeth o flaen cefnogwyr y flwyddyn nesaf.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at y Bencampwriaeth flwyddyn nesaf, gyda’r gobaith o ddychwelyd at normalrwydd pan fyddwn ni’n gallu croesawu cefnogwyr i’r stadia, a dod ag awyrgylch unigryw y Chwe Gwlad yn ôl i stafelloedd byw, tafarndai, a chlybiau rygbi dros y byd,” meddai Ben Morel.

Y gemau

Eleni, bu bron i dîm Wayne Pivac ennill Camp Lawn ond fe wnaeth cais munud olaf gan Ffrainc gipio eu gobeithion.

Flwyddyn nesaf, bydd Ffrainc a Chymru yn chwarae yn erbyn ei gilydd yn Stadiwm y Principality ar nos Wener, Mawrth 11, gan ddechrau’r bedwaredd rownd.

Bydd Cymru’n chwarae tair gêm gartref, gan groesawu’r Alban i Gaerdydd, ac yna gorffen eu pencampwriaeth gyda gêm gartref yn erbyn yr Eidal.

Bydd dwy gêm yn cael eu cynnal yn Twickenham, un erbyn Cymru yn y drydedd rownd, a’r llall yn erbyn Iwerddon yn y bedwaredd rownd.

Ar ôl gorffen yn bedwerydd eleni, a churo Ffrainc a Lloegr, bydd gan yr Alban ddwy gêm gartref.

Bydd tair o gemau Iwerddon, a orffennodd yn drydydd eleni, yn cael eu cynnal yn Stadiwm Aviva wrth iddyn nhw groesawu Cymru, yr Eidal, a’r Alban.

“Llwyddiant gwirioneddol arbennig”

“Fe wnaeth drama’r Sadwrn Olaf, gyda Ffrainc yn curo Cymru ar y funud olaf, olygu na chafodd enillwyr y Bencampwriaeth eu datgelu nes ar ôl i’r gêm ola’ gael ei chwarae,” ychwanegodd Ben Morel.

“Roedd hi’n ymdrech arbennig gan nifer o bobol er mwyn gallu cynnal y Bencampwriaeth, nid yn lleiaf y chwaraewyr a staff yr undebau, darlledwyr, y wasg, a’n partneriaid.

“Fe wnaeth yr ymdrech dalu ei ffordd ar ffurf torri record ar gyfer cynulleidfaoedd teledu, a hon oedd y Bencampwriaeth fwyaf ymgysylltiol erioed.

“Roedd e’n llwyddiant gwirioneddol arbennig.

“Fe wnaeth y Bencampwriaeth Chwe Gwlad hon gynnig adloniant i nifer o’n dilynwyr hirdymor, a dw i’n credu ein bod ni wedi ennill nifer o rai newydd hefyd.”

Dim taith i’r Ariannin yr haf hwn – ond gwahoddiad yn lle

Fodd bynnag, mae’n ymddangos na fydd taith Cymru i’r Ariannin yn digwydd yr haf hwn – ond mae’r Undeb dal yn obeithiol o wynebu’r Pumas.

Mae dau Brawf wedi’u trefnu yn yr Ariannin, ond mae cyfyngiadau teithio llym ar waith ar hyn o bryd.

Mae trafodaethau’n mynd rhagddynt rhwng penaethiaid Undeb Rygbi Cymru a’u cymheiriaid yn yr Ariannin, gyda phosibilrwydd y bydd y Pumas yn teithio i Gymru.

“Ni allaf ein gweld ni’n teithio i’r Ariannin,” meddai prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Steve Phillips.

“Mae’r wlad ar y rhestr goch, sy’n golygu y byddai’r chwaraewyr yn wynebu cwarantin caled, lle rydych chi’n byw mewn gwesty yn Heathrow am 10 diwrnod, ar ddychwelyd.

“Felly byddwn yn siarad â’r Ariannin ac yn gofyn a hoffent ddod i Gymru. Byddem yn hapus i’w cynnal a chyfrannu at eu costau.”

Chwe Gwlad 2022

Rownd Un

Dydd Sadwrn, 5 Chwefror

Iwerddon v Cymru

Yr Alban v Lloegr

Dydd Sul, 6 Chwefror

Ffrainc v Yr Eidal

Rownd Dau

Dydd Sadwrn, 12 Chwefror

Cymru v Yr Alban

Ffrainc v Iwerddon

Dydd Sul, 13 Chwefror

Yr Eidal v Lloegr

Rownd Tri

Dydd Sadwrn, 26 Chwefror

Yr Alban v Ffrainc

Lloegr v Cymru

Dydd Sul, 27 Chwefror

Iwerddon v Yr Eidal

Rownd Pedwar

Dydd Gwener, 11 Mawrth

Cymru v Ffrainc

Dydd Sadwrn, 12 Mawrth

Yr Eidal v Yr Alban

Lloegr v Iwerddon

Rownd Pump

Dydd Sadwrn, 19 Mawrth

Cymru v Yr Eidal

Iwerddon v Yr Alban

Ffrainc v Lloegr