Lauren Price sydd wedi cipio gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru 2021.

Hi yw’r Gymraes gyntaf yn y byd paffio i ennill medal aur Olympaidd, ar ôl iddi gipio teitl pwysau canol wrth guro Li Qian o Tsieina o 5-0 ar bwyntiau gyda sgôr o 30-27 ar gardiau’r beirniaid yn Tokyo fis Awst.

Gyda’r fuddugoliaeth fawr honno, hi hefyd oedd yr ail ferch o wledydd Prydain, ar ôl Nicola Adams, i ennill medal aur yn y paffio.

Curodd hi Nouchka Fontijn o’r Iseldiroedd yn y rownd gyn-derfynol, a hithau wedi ei churo i ennill ei theitlau Ewropeaidd a Byd – ond roedd hi eisoes wedi colli ddwywaith yn ei herbyn eleni.

Uchafbwynt ei blwyddyn

Wrth siarad ar ôl derbyn y wobr, dywedodd Lauren Price mai ennill gwobr y BBC yw uchafbwynt ei blwyddyn.

Cafodd ei dewis gan banel o feirniaid, sef Nigel Walker (cyfarwyddwr perfformiad Undeb Rygbi Cymru); y cyn-seren Baralympaidd, y Fonesig Tanni Grey-Thompson; Leshia Hawkins (prif weithredwr Criced Cymru); y cyn-chwaraewr pêl-droed a phêl-rwyd; ac Owen Lewis o Chwaraeon Cymru.

Yn ôl Nigel Walker, roedd cryn drafod cyn dewis yr enillydd.

Gyrfa

Cafodd Lauren Price ei magu gan ei mam-gu a’i thad-cu, a bu’n flwyddyn anodd iddi yn 2020 wrth iddi golli ei thad.

Roedd hi wedi dechrau’r flwyddyn yn gadarn gyda medal aur yn Hwngari, wrth golli am y tro cyntaf yn erbyn Fontijn mewn twrnament coffa ac am yr ail waith yn y Grand Prix yn y Weriniaeth Tsiec wrth iddi ennill y fedal efydd.

Fis Mehefin, daeth cadarnhad o’i lle yn y Gemau Olympaidd yn Tokyo gyda buddugoliaeth yn y rowndiau rhagbrofol yn Paris dros Zenfira Magomedalieva o Rwsia.

Enillodd hi wobr Olympiwr / Olympwraig y Flwyddyn ym mis Hydref – y tro cyntaf i’r wobr gael ei rhoi, gan y cyhoedd, fel rhan o Wobrau’r Loteri Genedlaethol.

Dim ond Fred Evans (Llundain, 2012) a Ralph Evans (Munich, 1972) o Gymru sydd wedi ennill medalau Olympaidd yn y byd paffio.

Mae’r penderfyniad i gefnu ar bêl-droed wedi talu ar ei ganfed i Lauren Price, oedd wedi cynrychioli Cymru cyn troi at y gamp newydd.

Yn yr ysgol, roedd Price o Ystrad Mynach yn chwarae pêl-rwyd, cicfocsio a phêl-droed, a chafodd hi dipyn o lwyddiant ym mhob un, gan gynrychioli oedrannau Cymru mewn pêl-rwyd a taekwondo hefyd, gan ennill gwobrau Prydeinig, Ewropeaidd a’r Byd mewn cicfocsio.

Enillodd hi 52 o gapiau pêl-droed dros ei gwlad ar draws yr holl oedrannau, gan ennill dau gap i dîm llawn Cymru.

Hi hefyd oedd y Gymraes gyntaf i ennill medal yng Ngemau’r Gymanwlad, gan gipio’r efydd yn Glasgow yn 2014, cyn ennill y fedal aur yn Awstralia yn 2018 a medal aur y Byd yn 2019.

Mae sôn ar hyn o bryd y gallai droi’n broffesiynol er mwyn mynd â’i gyrfa gam ymhellach.