Mae timau Rygbi’r Gynghrair Awstralia a Seland Newydd wedi tynnu allan o Gwpan y Byd eleni oherwydd “pryderon am les a diogelwch chwaraewyr.”

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn Lloegr rhwng mis Hydref a Thachwedd.

Nododd cadeirydd bwrdd rygbi’r gynghrair Seland Newydd bod “gwahaniaethau clir” rhwng y ffordd mae’r Deyrnas Unedig a’r ddwy wlad yn rheoli effeithiau’r pandemig, ac ei bod hi’n “rhy anniogel” iddyn nhw gymryd rhan.

Mae trefnwyr y gystadleuaeth nawr yn ceisio cynnal cyfarfod argyfwng i drafod y camau nesaf yn dilyn y newyddion.

Dywedon nhw mewn datganiad: “Mae’r trefnwyr yn nodi’r cyhoeddiad siomedig gan fyrddau’r ddwy wlad a gall hynny arwain at oblygiadau Rygbi’r Gynghrair yn fyd-eang.

“Cawson ni ein hysbysu ar fyr rybudd iawn a bydd trafodaethau â chyfrandalwyr i gytuno ar y ffordd orau ymlaen.”

‘Siom’ 

Mae cadeirydd Bwrdd Rhyngwladol Rygbi’r Gynghrair (IRL), Troy Grant, wedi beirniadu’r penderfyniad gan y ddwy wlad.

“Tra fy mod i’n gwerthfawrogi bwriad Awstralia i sicrhau lles a diogelwch eu chwaraewyr, rwy’n ei chael hi’n anodd mynegi fy siom efo’r penderfyniad,” dywedodd Grant mewn datganiad.

“Mae pob sefydliad chwaraeon, diwydiant, llywodraeth a theulu o amgylch y byd wedi eu heffeithio gan y pandemig.

“Mae’r IRL a threfnwyr Cwpan y Byd wedi dweud eisoes ein bod ni’n gwerthfawrogi’r heriau o’n blaenau ni i gynnal twrnamaint llwyddiannus gyda diogelwch chwaraewyr a swyddogion yn flaenoriaeth.

“Rydyn ni wedi cyrraedd pob disgwyliad ohonyn ni.

“Mae popeth mewn lle i liniaru’r risgiau posib a chyrraedd gofynion byrddau rygbi’r gynghrair Awstralia a Seland Newydd.”

Newid crysau

Mae Grant hefyd wedi rhannu bod rhai chwaraewyr a hyfforddwyr yn anhapus gyda’r penderfyniad a bod nifer ohonyn nhw’n fodlon gyda’r trefniadau, gan honni y gall nifer ohonyn nhw benderfynu cynrychioli gwlad wahanol er mwyn cymryd rhan.

“Maen nhw wedi dweud wrtha i eu bod nhw’n teimlo bod eu dewis personol nhw i gymryd rhan neu beidio wedi ei gymryd oddi arnyn nhw,” dywedodd.

“Mae cymdeithas y chwaraewyr wedi ymrwymo i barhau i weithio gyda ni a’r trefnwyr tuag at y twrnament eleni, ac mae hynny’n cynnwys chwaraewyr o Awstralia a Seland Newydd sydd bellach yn awyddus i chwarae dros wledydd eraill.”

‘Hunanol a llwfr’

Mae cadeirydd Rygbi’r Gynghrair yn Lloegr, Simon Johnson, wedi ymateb yn chwyrn i benderfyniad y ddwy wlad, gan ei alw’n ‘hunanol, plwyfol a llwfr’

“Mae trefnwyr Cwpan y Byd wedi ymdrechu i’r eithaf i gyrraedd pob un o’r gofynion, yn enwedig rhai Awstralia,” meddai.

“I gael y sicrwydd yna wedi ei ddiystyru, rwy’n flin iawn.

“Mae’n benderfyniad hunanol, plwyfol a llwfr gan arweinwyr Awstralia a Seland Newydd.

“Byddai gen i rywfaint o gydymdeimlad â nhw os na fyddai athletwyr Awstralia yn Tokyo ar hyn o bryd ar gyfer y Gemau Olympaidd, a bod cricedwyr dynion Seland Newydd heb chwarae yn Lloegr yr haf.

“Os ydy’r cyrff chwaraeon hynny’n yn gyffyrddus gyda’r trefniadau sy’n cael eu gwneud, pam bod yr awdurdodau rygbi’r gynghrair ddim yn fodlon â hynny?”