Mae cyn-gapten Cymru, Ieuan Evans, wedi cael ei ethol yn is-gadeirydd newydd Undeb Rygbi Cymru.
Dywedodd Undeb Rygbi Cymru fod Evans, sydd eisoes yn gyfarwyddwr ar fwrdd yr Undeb, yn llenwi’r swydd sy’n wag ar ôl i Liza Burgess symud i rôl newydd.
Burgess, bellach, yw prif hyfforddwr grwpiau ieuenctid Undeb Rygbi Cymru ar gyfer menywod.
Mae Evans, 57, yn cynrychioli rygbi Cymru ar Gyngor Rygbi’r Byd a bwrdd Llewod Prydain ac Iwerddon.
“Rwy’n falch iawn o fod mewn sefyllfa i roi rhywbeth yn ôl i rygbi Cymru ac rwy’n bwriadu manteisio ar y cyfle i weithio i wella’r gêm yng Nghymru,” meddai Evans.