Roedd yn ddiwrnod o gerrig milltir i Forgannwg ar ddiwrnod cynta’r tymor criced, wrth iddyn nhw orffen ar 433 am bedair yn erbyn Swydd Northampton yng Nghaerdydd.
Roedd canred yr un i Marnus Labuschagne a Billy Root yn eu gemau cyntaf i’r sir, a hefyd i Kiran Carlson.
Marnus Labuschagne yw’r pumed Awstraliad, yr wythfed chwaraewr tramor a’r deuddegfed chwaraewr yn hanes y sir i daro canred yn ei gêm gyntaf dosbarth cyntaf i Forgannwg.
Mae’n ymuno â’i gydwladwyr Matthew Elliott, Mark Cosgrove, Shaun Marsh ac Usman Khawaja, yn ogystal â Javed Miandad, Younis Ahmed a Brendon McCullum.
Yn cwblhau’r rhestr mae Mike Powell, Frank Pinch, Matthew Maynard ac Alex Wharf.
Ac fe efelychodd Billy Root ei gamp yn ddiweddarach – y tro cyntaf yn hanes y sir i ddau chwaraewr sgorio canred yn eu gêm dosbarth cyntaf gyntaf ar yr un diwrnod.
Fe, felly, yw’r trydydd chwaraewr ar ddeg i sgorio canred yn ei gêm gyntaf i’r sir mewn gemau dosbarth cyntaf.
Roedd record arall, wrth i dri batiwr sgorio canred yn yr un batiad i Forgannwg am y tro cyntaf ers i Hugh Morris, Matthew Maynard a Viv Richards wneud hynny yn erbyn Swydd Nottingham yn Worksop yn 1990.
Batio cryf yn y bore
Roedd y llain yn edrych yn berffaith a’r tywydd yn braf ar gyfer criced ymosodol, cystadleuol ar ddechrau diwrnod cynta’r tymor ac ymgyrch Morgannwg ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Swydd Northampton yng Ngerddi Sophia, Caerdydd.
Mae’n ymddangos bod gan Forgannwg bartneriaeth fatio agoriadol newydd, ar ôl i Charlie Hemphrey, sy’n enedigol o Swydd Efrog, symud o Queensland at Forgannwg ac un arall o frodorion y dalaith, Nick Selman.
Adeiladon nhw 27 am y wiced gyntaf cyn i Nathan Buck gipio wiced Nick Selman yn ei bedwaredd pelawd, wrth i’r batiwr gynnig ergyd dila i’r capten Alex Wakely yn y slip, ac fe ddaeth Marnus Labuschagne, un arall o Queensland, i’r llain.
Gydag ychydig yn llai na thri chwarter awr yn weddill o’r sesiwn gyntaf, cafodd Charlie Hemphrey ei ddal gan y wicedwr Adam Rossington am 28, wrth chwarae ergyd lydan a llac oddi ar fowlio Jason Holder, a’r sgôr yn 62 am ddwy.
Ceisiodd David Lloyd, y chwaraewr amryddawn o’r gogledd ac un o ddau Gymro yn unig yn y tîm, ymosod o’r cychwyn cyntaf, gan daro cyfres o ergydion i’r ffin yn gynnar yn ei fatiad.
Erbyn cinio, roedd Morgannwg yn 94-2, gyda David Lloyd (25) a Marnus Labuschagne (28) wrth y llain.
Marnus Labuschagne yn y llyfrau hanes
Hanner awr yn unig gymerodd hi ar ôl yr egwyl i’r ymwelwyr gipio trydedd wiced, wrth i David Lloyd gael ei ddal gan y maeswr agos Ricardo Vasconcelos oddi ar fowlio Blessing Muzarabani am 31, a’r sgôr yn 126 am dair.
Cyrhaeddodd Marnus Labuschagne ei hanner canred yn fuan wedyn, a hynny oddi ar 97 o belenni ar ôl taro saith pedwar, ac fe barhaodd i gosbi’r bowlwyr wrth adeiladu partneriaeth gadarn â Billy Root, sydd hefyd yn chwarae yn ei gêm Bencampwriaeth gyntaf i’r sir.
Ymlwybrodd Marnus Labuschagne tuag at ei ganred – a’r llyfrau hanes – cyn amser te, wrth i’r bartneriaeth gyda Billy Root barhau i ffynnu. Fe gymerodd e 158 o belenni i gyrraedd y garreg filltir, ar ôl taro 16 pedwar.
Billy Root a Kiran Carlson yn ymuno yn yr hwyl
Roedd Billy Root newydd gyrraedd ei hanner canred oddi ar 86 o belenni cyn amser te, wrth i Forgannwg orffen y sesiwn ar 248 am dair.
Collodd Labuschagne ei wiced yn fuan ar ôl te, wrth gael ei ddal gan Ricardo Vasconcelos yn tynnu oddi ar fowlio Blessing Muzarabani am 121, gan ddod â phartneriaeth o 135 gyda Billy Root i ben, a’r sgôr yn 261 am bedair.
Fe wnaeth Kiran Carlson fwrw iddi ar unwaith a tharo ergydion i bob cwr o’r cae wrth adeiladu partneriaeth gref gyda Billy Root. Fe gyrhaeddodd ei hanner canred oddi ar 55 o belenni, gan gynnwys wyth pedwar.
Daeth y canred i Billy Root oddi ar 150 o belenni maes o law ac fe gyrhaeddodd Kiran Carlson ei ganred yntau toc cyn diwedd y dydd.
Roedd Billy Root heb fod allan ar 126 a Kiran Carlson yn ddi-guro ar 101, wrth i Forgannwg orffen y diwrnod cyntaf ar 433 am bedair – y cyfanswm mwyaf o rediadau ar ddiwrnod cyntaf gêm Bencampwriaeth ers 1997, pan gododd Morgannwg y tlws ar ddiwedd y tymor.