Mae cefnogwyr CPD Dinas Bangor wedi penderfynu ffurfio “clwb pêl-droed newydd”.
Daw yn dilyn cyfarfod brys a gafodd ei gynnal gan Gymdeithas Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Dinas Bangor neithiwr (nos Fercher, Ebrill 10).
Yn ystod y misoedd diwethaf, mae clwb y ddinas wedi wynebu trafferthion mawr, ac nid y lleiaf ohonyn nhw oedd gorfod disgyn o Uwch Gynghrair Cymru i Gynghrair Cymru y llynedd ar ôl methu â datgelu gwybodaeth ariannol.
Maen nhw hefyd wedi wynebu problemau oddi ar y cae, ac yn gynharach eleni bu’n rhaid galw am gymorth gan gyfranddalwyr ar ôl i’r cyflenwad dŵr a thrydan yn Stadiwm Nantporth gael ei ddiffodd o ganlyniad i ddyledion gwerth £25,000.
“Aildanio’r gymuned bêl-droed”
Mewn datganiad, dywed cefnogwyr y clwb eu bod nhw am sefydlu clwb newydd fel “yswiriant yn erbyn yr hyn rydyn ni’n ei ystyried yn fygythiad go iawn i’r lefel uchel o bêl-droed sy’n cael ei chwarae yn y ddinas”.
Maen nhw’n ychwanegu eu bod nhw eisoes yn cynnal trafodaethau â chyfranddalwyr, swyddogion Cymdeithas Bêl-droed Cymru, tîm rheoli lleol a darparwr nwyddau, gyda’r gobaith o gofrestru’r clwb newydd erbyn Mehefin 1.
“Y gobaith yw y byddai’r penderfyniad heno yn sicrhau bod y cefnogwyr, y gymuned leol a busnesau yn datblygu partneriaeth newydd a fydd yn aildanio’r gymuned bêl-droed yn y ddinas a’r ardal leol,” meddai’r datganiad.
“Rydyn ni’n awyddus i weld cefnogwyr yn ailgysylltu â’i gilydd ac i ail-greu’r balchder hwnnw sydd i’w deimlo drwy fod yn gefnogwr o’n clwb hanesyddol.
“Mae’r clwb newydd yn ddatrysiad creadigol a phositif ar gyfer sefyllfa fregus sy’n newid yn barhaus.
“Dydyn ni ddim yn troi ein cefnau ar CPD Dinas Bangor na’i hanes. Ein clwb ni yw e – mae’n perthyn i’r cefnogwyr ac i’r gymuned leol.”