Mae tîm criced Awstralia’n cael cadw’r Lludw ar ôl trechu Lloegr o 185 o rediadau yn Old Trafford ym Manceinion neithiwr (dydd Sul, Medi 8).
Maen nhw ar y blaen o 2-1 ar ôl pedair gêm brawf.
Er bod un gêm yn weddill o’r gyfres, a honno’n dechrau ddydd Iau ar yr Oval, does dim modd bellach i Loegr ennill y gyfres er mwyn adennill y tlws enwocaf yn y byd criced.
Am gyfnod ar y diwrnod olaf, roedd hi’n edrych fel pe bai Lloegr yn gallu ailadrodd eu batio arwrol yn Headingley.
Roedd gêm gyfartal ymhell y tu hwnt i’w gafael yn y pen draw ac er bod Jack Leach, un o’r arwyr yn y gêm ddiwethaf, yn dal wrth y llain ar ôl bod wrth y llain gyda Craig Overton am dros awr, dim ond 84.3 pelawd allan o 98 barodd y Saeson ar y diwrnod olaf y tro hwn.
Cafodd Steve Smith, cyn-gapten Awstralia, ei enwi’n seren y gêm ar ôl taro 211 yn y batiad cyntaf ac 82 yn yr ail.
Roedd blas Cymreig ar y fuddugoliaeth i Awstralia hefyd, wrth i Marnus Labuschagne, a dreuliodd hanner cynta’r tymor hwn gyda Morgannwg, gipio nawfed wiced Lloegr tua diwedd yr ornest.
Pan gafodd Lloegr eu bowlio allan am 197 erbyn 6.15yh, fe ddechreuodd y dathliadau i Awstralia, a fydd yn derbyn y Lludw ar ôl y gêm ar yr Oval.
Yr unig wobr fydd ar gael i Loegr am fuddugoliaeth ar yr Oval yw hunanfalchder.