Bydd ysgolion Ynys Môn yn rhoi’r gorau i ddysgu wyneb yn wyneb ddiwedd yr wythnos hon (dydd Gwener, Rhagfyr 17) oherwydd y cynnydd yng nghyfraddau Covid-19 y sir.

Ar ôl hynny, bydd ysgolion Ynys Môn yn ailgyflwyno dysgu cyfunol, cyfuniad o ddysgu o bell ac wyneb yn wyneb, tan ddiwedd y tymor (dydd Mercher, Rhagfyr 22), meddai’r Cyngor Sir.

Bydd plant gweithwyr allweddol, plant bregus a phlant lle nad oes modd i’w rhieni weithio o adref yn parhau i fynd i’r ysgol am y tridiau olaf lle bo angen, ac os nad yw’n bosib gwneud trefniadau eraill.

Fe fydd gan benaethiaid yr hawl i wahodd grwpiau o ddysgwyr i fynychu’r ysgol ar gyfer gwersi wyneb yn wyneb lle bo angen hefyd, er enghraifft er mwyn paratoi at asesiadau.

Ynys Môn sydd â’r gyfradd uchaf o achosion o Covid-19 yng Nghymru, gyda 796.7 achos ym mhob 100,000 o’r boblogaeth dros y saith diwrnod hyd at heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 13).

Mae’r ystadegau ar gyfer yr un cyfnod yn dangos bod y gyfradd dros Gymru yn 500.1 ym mhob 100,000 person.

Gwynedd (685.6) a Wrecsam (651.7) sydd â’r cyfraddau uchaf fel arall.

‘Llesiant pobol’

Yn ôl Cyngor Ynys Môn, mae effaith diwedd y pandemig ar nifer o ysgolion, ac anawsterau wrth gynnal lefelau staffio digonol ac effaith hynny, yn ystyriaethau allweddol yn y penderfyniad hefyd.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Ynys Môn, y Cynghorydd Llinos Medi, ei bod hi’n dweud bob amser nad yw’r “awdurdod hwn yn gwneud beth sydd angen i ddiogelu ein cymunedau”.

“Mae nifer yr achosion o coronafeirws wedi cynyddu’n sylweddol ar yr Ynys yn ystod Hydref, Tachwedd a Rhagfyr – gyda mwyafrif yr achosion ymysg plant a phobl ifanc,” meddai.

“Bydd addysg disgyblion yn parhau, ond fe all newid i ddysgu cyfunol am ddyddiau diwethaf y tymor brofi’n allweddol er mwyn torri’r lefelau uchel o drosglwyddiad yr ydym wedi gweld yn ddiweddar rhag parhau i gyfnod y Nadolig a thu hwnt.

“Ynghyd ȃ phryderon am yr amrywiolyn Omicron sydd yn ymddangos, mae nifer o rieni a staff yn poeni’n arw ac ar ôl blwyddyn anodd arall mae’n rhaid i ni ystyried llesiant pobol.

“Mae ein tîm Addysg yn parhau i gydweithio’n agos â phenaethiaid ysgolion a hoffwn ddiolch i staff ein hysgolion, cyrff llywodraethol a rhieni am eu gwaith a’u gofal parhaus yn ystod cyfnod hynod o anodd.”

Fe fydd prifathrawon yn darparu rhagor o wybodaeth am drefniadau ysgolion yn uniongyrchol i rieni.

Mae trigolion Ynys Môn yn cael eu hannog i fod yn ofalus hefyd, a chadw eu hunain ac eraill o’u cwmpas mor ddiogel â phosib, drwy wisgo mwgwd pan fydd angen, mynd am brawf a hunanynysu os oes angen, mynd am frechlyn, gadael awyr iach i mewn i adeiladau, a gwneud profion llif unffordd rheolaidd.

Mae arweinydd Cyngor Gwynedd yn dweud bod angen “ystyried cau ysgolion” ynghynt cyn y Nadolig hefyd, ac mae Dr Eilir Hughes, meddyg teulu yn Nefyn, yn dweud y byddai gorffen y tymor yn gynharach yn rhoi mwy o siawns o ddod i wybod os oedd plentyn wedi dal Covid-19, cyn cymysgu â theulu a ffrindiau.

Galw am gau holl ysgolion Cymru yn gynt na’r arfer cyn y Nadolig, i atal lledaeniad Covid

Bydd ysgolion 12 o’r 22 sir yng Nghymru yn cau ar gyfer yr ŵyl ar 17 Rhagfyr, tra bod y gweddill yn cau ar 21 neu 22 Rhagfyr