Mae achosion o’r amrywiolyn Omicron wedi dyblu yng Nghymru, ac mae achosion wedi’u cadarnhau ym mhob bwrdd iechyd erbyn hyn.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau 15 achos newydd o’r amrywiolyn heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 13).

Golyga hynny fod cyfanswm o 30 achos wedi’u cadarnhau yng Nghymru, ond dywed Prif Swyddog Meddygol Cymru fore heddiw fod y ffigurau’n debygol o fod yn uwch mewn gwirionedd.

Mae’n ymddangos bod achosion o’r amrywiolyn Omicron yn dyblu bron bob deuddydd yn y Deyrnas Unedig, yn ôl Dr Frank Atherton.

Cafodd y farwolaeth gyntaf yn y Deyrnas Unedig o ganlyniad i Omicron ei chyhoeddi heddiw hefyd.

‘Disgwyl cynnydd’

Dywed Dr Meng Khaw, Cyfarwyddwr Cenedlaethol y Gwasanaethau Diogelu Iechyd a Sgrinio, fod tri o’r achosion newydd yn gysylltiedig â theithio rhyngwladol.

“Bellach, mae yna achosion Omicron ym mhob ardal bwrdd iechyd yng Nghymru,” meddai.

“I gyd, mae pedwar achos bellach yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, mae pump yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, pedwar yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a 14 yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

“Mae un achos yr un yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ardal Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ac ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

“Fel rydyn ni wedi dweud o’r blaen, mae disgwyl cynnydd mewn achosion o amrywiad Omicron yng Nghymru.”

Mae Cymru am “drio” cynnig brechlynnau atgyfnerthu i bob oedolyn erbyn diwedd Rhagfyr, meddai Dr Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol, ond dydi Llywodraeth Cymru heb roi cadarnhad o hynny eto.

Bydd Mark Drakeford yn annerch y genedl am 7yh heno ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar BBC Wales News.

Cyhoeddi’r farwolaeth gyntaf o ganlyniad i Omicron yn y Deyrnas Unedig

Wrth gyhoeddi’r farwolaeth, mae Boris Johnson wedi gwrthod wfftio’r posibilrwydd o gyflwyno cyfyngiadau llymach cyn y Nadolig

Cymru am “drio” cynnig brechlynnau atgyfnerthu i bob oedolyn erbyn diwedd Rhagfyr

Prif Swyddog Meddygol Cymru yn disgwyl gweld ton o heintiadau Omicron yn lledaenu yn y gymuned dros y Nadolig