Fe fydd Cymru’n “trio” symud y targed a chynnig brechlynnau atgyfnerthu i bob oedolyn erbyn diwedd mis Rhagfyr, yn ôl Prif Swyddog Meddygol Cymru.
Wrth siarad ar BBC Radio Wales, dywedodd Dr Frank Atherton eu bod nhw’n credu’n wreiddiol mai problem ar gyfer mis Ionawr fyddai Omicron, ond ei fod bellach yn disgwyl gweld ton o heintiadau’n lledaenu yn y gymuned dros y Nadolig.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw am gynnig brechlynnau atgyfnerthu i bob oedolyn cymwys erbyn diwedd mis Ionawr, a’u bod nhw’n disgwyl i frig ton o achosion o’r amrywiolyn Omicron daro tua diwedd Ionawr.
Dywedodd hefyd y byddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cefnogi’r llywodraethau datganoledig i “gyflymu” y rhaglen.
Bydd Mark Drakeford yn rhoi diweddariad am raglen frechu Cymru mewn neges i’r genedl ar BBC Wales News ac ar y cyfryngau cymdeithasol am 7yh heno (nos Lun, 13 Rhagfyr).
Bydd Llywodraeth Cymru’n adolygu cyfyngiadau Covid-19 yn wythnosol yn sgil pryderon am amrywiolyn Omicron, a dywedodd Dr Frank Atherton heddiw ei bod hi’n “anochel bron” y bydd rhai cyfyngiadau’n cael eu cyflwyno ond nad yw’n disgwyl gweld cyfnod clo cenedlaethol.
‘Poeni’n fawr’
“Yr hyn rydyn ni’n ei wneud yng Nghymru, fel gyda gweddill y Deyrnas Unedig – fel cyhoeddodd y Prif Weinidog ddoe – yw cyflymu’r broses o gynnig brechlynnau atgyfnerthu,” meddai Dr Frank Atherton wrth Radio Wales Brekfast.
“Roedd gennym ni gynllun i gynnig dos atgyfnerthu i bawb yng Nghymru erbyn diwedd Ionawr, ond rydyn ni am drio symud hynny ymlaen tuag at ddiwedd Rhagfyr.”
Mae 15 achos o amrywiolyn Omicron wedi’u cadarnhau yng Nghymru bellach, ac mae Dr Frank Atherton yn dweud ei bod hi “bron yn sicr” bod mwy, a’i fod yn lledaenu yn y gymuned.
“Mae hi bron yn anochel y bydd yn arwain at fwy o bobol mewn ysbytai ac rydyn ni’n dechrau gweld hynny dros y Deyrnas Unedig, ac yma yng Nghymru.
“Dw i’n poeni’n fawr am yr hyn sy’n mynd i ddigwydd dros y bythefnos, dair wythnos nesaf, am y rheswm syml ei bod hi’n ymddangos mai tua deuddydd yw amser dyblu’r haint dros y Deyrnas Unedig – os ydyn ni’n lwcus.
“Mae hynny’n ein harwain ni’n sydyn at donnau anferth o ledaeniad cymunedol,” meddai.
Ychwanegodd ei fod yn credu y byddai Omicron yn broblem ar gyfer Ionawr neu Chwefror i ddechrau, ond fod y cyfraddau lledaenu, a’r ffaith ei bod hi’n debyg ei fod yn lledaenu yn y gymuned yn barod, yn golygu ein bod ni’n “dipyn mwy tebygol o gael problemau yng nghyfnod y Nadolig ac yna Ionawr”.
Mesurau presennol
Mae Llywodraeth Cymru’n adolygu’r mesurau Covid bob wythnos o hyn ymlaen, yn sgil yr amrywiolyn.
Ni chafodd unrhyw newidiadau eu gwneud i’r mesurau yn ystod yr adolygiad diweddaraf, ond mae Llywodraeth Cymru yn annog pobol i gymryd prawf llif unffordd cyn mynd allan, ac yn dweud y dylai pobol wisgo mygydau mewn tafarndai a bwytai pan nad ydyn nhw’n bwyta.
Roedd Llywodraeth Cymru o’r farn mai amrywiolyn Delta fyddai’r amrywiolyn mwyaf amlwg yng Nghymru dros yr wythnos hon, a bod hynny’n golygu bod modd iddyn nhw gadw at yr un mesurau ac aros ar lefel rhybudd sero.
Yn ystod yr adolygiad diwethaf, penderfynodd Llywodraeth Cymru beidio ag ymestyn pasys Covid i gynnwys tafarndai a bwytai.
Ar hyn o bryd, mae’r pasys yn ofynnol mewn clybiau nos, sinemâu, theatrau, neuaddau cyngerdd, a digwyddiadau mawr.
Beth yw pas Covid?
Mae termau gwahanol yn tueddu i gael eu defnyddio i gyfeirio at y pasys, ond mae ganddyn nhw ystyron gwahanol.
Pasys Covid sy’n ofynnol yng Nghymru, ac mae modd cael pàs Covid domestig drwy fynd ar wefan y Gwasanaeth Iechyd.
Mae’r pàs Covid yn dangos bod y person naill ai wedi cael ei frechu neu wedi derbyn prawf llif unffordd neu brawf PCR negyddol o fewn 48 awr.
Unwaith y byddwch wedi cael y pàs, ac wedi lawrlwytho’r côd bar, bydd yn gweithio am 30 diwrnod.
Mae’n bosib printio tudalen gyda’r pàs arni hefyd, a bydd yn weithredol am 30 diwrnod.
O gymharu, mae pasbortau Covid yn dangos bod rhywun wedi cael ei brechu yn unig, yn hytrach nag ystyried profion negyddol.
Cinema & Co
Mae Cinema & Co. wedi gwrthod gweithredu’r pasys, ac maen nhw wedi cael eu gorfodi i gau.
Agorodd y sinema hyd yn oed ar ôl y gorchymyn gwreiddiol gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru.
Ymddangosodd Anna Redfern gerbron Llys y Goron Abertawe ar Dachwedd 30, a rhoddodd y barnwr orchymyn iddi gau’r sinema gan eu bod nhw’n mynd yn groes i reoliadau Covid-19, gan gyd-fynd â gorchymyn gwreiddiol Cyngor Abertawe.
Bu’n rhaid iddi dalu costau cyfreithiol o £5,265 hefyd.
Er hynny, mae’n debyg bod y sinema wedi agor eu drysau eto gan ddangos ffilm Nadolig.
Mae Cyngor Abertawe wedi bolltio’r lle ynghau bellach, gan eu bod nhw’n parhau i ailagor er gwaetha’r gorchymyn.
Mae disgwyl i Anna Redfern fynd gerbron llys eto fory (dydd Mawrth, Rhagfyr 14) ar achos dirmyg llys.