Bydd Llywodraeth Cymru’n adolygu cyfyngiadau Covid-19 bob wythnos yn sgil pryderon am yr amrywiolyn Omicron.
Daeth cadarnhad mewn datganiad gan y prif weinidog Mark Drakeford a’i lywodraeth yn dilyn anerchiad Boris Johnson ledled y Deyrnas Unedig heno (nos Sul, Rhagfyr 12).
Mewn neges oedd wedi’i recordio ymlaen llaw, dywedodd Boris Johnson fod y targed o sicrhau bod pob oedolyn yn Lloegr yn cael dos atgyfnerthu o frechlyn Covid-19 yn cael ei symud ymlaen un mis o ganlyniad i don newydd o’r feirws a allai achosi “llawer iawn o farwolaethau”.
Y nod erbyn hyn yw sicrhau bod pawb dros 18 oed yn Lloegr yn cael brechlyn erbyn y flwyddyn newydd, a hynny mewn ymgais i sicrhau na fydd adnoddau’r Gwasanaeth Iechyd yn cael eu hymestyn i’r eithaf.
Bydd 42 o dimau milwrol yn cael eu penodi i arwain yr ymgyrch ym mhob ardal bwrdd iechyd, a bydd mwy o ganolfannau brechu sefydlog a symudol yn cael eu hagor ac oriau gwaith clinigau’n cael eu hymestyn, a bydd miloedd yn rhagor o wirfoddolwyr yn cael eu hyfforddi i frechu.
Mae lefel rhybudd Covid y Deyrnas Unedig wedi codi o Lefel 3 i Lefel 4, a hynny yn dilyn cyngor yr awdurdodau iechyd i brif swyddogion meddygol y pedair gwlad.
“Rydyn ni eisoes wedi gweld derbyniadau i ysbytai’n dyblu o fewn wythnos yn Ne Affrica, ac mae gennym ni gleifion ag Omicron yma yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd,” meddai Boris Johnson.
“Ar hyn o bryd, all ein gwyddonwyr ddim dweud bod Omicron yn llai difrifol.”
Ychwanegodd y byddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cefnogi’r llywodraethau datganoledig i “gyflymu” y broses o gynnig dos atgyfnerthu i bawb.
Ymateb Mark Drakeford
“Rydyn ni’n dysgu mwy am amrywiolyn Omicron bob dydd,” meddai Mark Drakeford, prif weinidog Cymru.
“Mae hwn yn ffurf sy’n symud yn gyflym ar y coronafeirws, sydd â’r potensial i achosi ton fawr o heintiau yng Nghymru. Gallai hyn arwain at yr angen i nifer fawr o bobol gael triniaeth ysbyty ar adeg pan mae ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol o dan bwysau sylweddol.
“Ein gwarchodaeth orau o hyd yw brechu. Mae tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg yn dangos bod y dos atgyfnerthu yn hanfodol.
“Rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i gyflymu ein rhaglen frechu i gynyddu nifer y bobol a fydd yn derbyn eu brechlyn atgyfnerthu yn ystod y dyddiau a’r wythnosau nesaf. Mae pobol hŷn a’r rhai sydd fwyaf mewn perygl yn cael eu blaenoriaethu ar hyn o bryd.
“Rydyn ni’n cynyddu nifer y clinigau a’u horiau agor; rydyn ni wedi gofyn i’r holl staff sydd ar gael i ymuno â thimau brechu i gefnogi’r ymdrech genedlaethol hon.
“Gwnewch yn siŵr bod cael eich brechlyn atgyfnerthu yn flaenoriaeth. Bydd yn un o’r pethau pwysicaf y gallwch chi ei wneud i warchod eich hun rhag y coronafeirws a’r amrywiolyn newydd hwn.
“Mae’r Cabinet yn monitro’r sefyllfa iechyd cyhoeddus hon sy’n newid yn gyflym yn ofalus iawn ac wedi symud i gylch adolygu wythnosol.
“Rydyn ni’n wynebu sefyllfa ddifrifol iawn ac efallai y bydd angen i ni gymryd camau pellach i gadw Cymru’n ddiogel.
“Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Gymru.”