Mae Llywodraeth Cymru’n lansio cronfa sy’n werth £1m er mwyn cefnogi hyd at 500 o bobol sy’n ddi-waith a phobol ifanc nad ydyn nhw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant i sefydlu eu busnes eu hunain.

Daeth y cyhoeddiad gan Vaughan Gething, Ysgrifennydd yr Economi.

Bydd y grant, fydd yn cael ei roi yn ôl disgresiwn, yn cynnig cymorth ariannol o hyd at £2,000 yr un i hyd at 400 o unigolion sydd wedi wynebu rhwystrau wrth geisio sefydlu busnes, yn ogystal â hyd at 100 o entrepreneuriaid ifainc.

Bydd y grant yn rhan o becyn cymorth fydd yn cynnwys cyngor un-i-un a gweminarau i adeiladu hyder mewn arferion busnes ac i ddatblygu cynlluniau i sefydlu busnes.

Mae’r Grant Rhwystrau i Fusnesau Newydd eisoes wedi helpu 382 o unigolion a gafodd eu heffeithio’n anghymesur gan y pandemig Covid-19, gan gynnig buddsoddiad iddyn nhw gael dechrau busnes yn 2020/21.

Yr ymgeiswyr llwyddiannus

Menywod oedd 60% o’r ymgeiswyr llwyddiannus, 12% yn bobol ag anableddau, 13% yn Ddu, Asiaidd neu’n Lleiafrif Ethnig arall, tra bod 12% yn entrepreneuriaid ifainc.

Yn eu plith roedd Yvette Clark, oedd wedi defnyddio’r arian i sefydlu Fussy, siop pethau o’r oes a fu, yn y Barri.

“Rwyf bob amser wedi bod eisiau cael fy siop fy hun a bod yn fos arnaf i fy hun,” meddai.

“Ni feddyliais erioed y byddai’n cymryd pandemig i hynny ddigwydd, ond dyma fi. Gwnaeth wynebu’r posibilrwydd o golli fy swydd fy sbarduno i ddilyn fy uchelgais oes o werthu dillad o’r oes a fu yn llawn amser.

“Fel rhan o’m pecyn dileu swydd, roeddwn yn gymwys i gael hyfforddiant ReAct. Ar ôl ychydig o gyrsiau, penderfynais lunio cynllun busnes ar gyfer fy siop fy hun a chysylltu â Busnes Cymru.

“Ar ôl mynychu’r weminar ‘Dechrau a Rhedeg eich Busnes eich hun’ am ddim, dechreuais roi fy nghynllun ar waith gyda chymorth cynghorydd â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth yn y maes. Rhoddwyd cymorth amhrisiadwy i mi drwy gydol fy nhaith.”

Cymorth ychwanegol

Mae Busnes Cymru bellach wedi cynyddu’r gefnogaeth sydd ar gael ar ffurf cyngor i helpu unigolion wneud cais am y grant.

Bydd hyn ar gael o heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 13) tan ddiwedd mis Mawrth.

Bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus ystyried y rhan maen nhw’n ei chwarae wrth fabwysiadu gwerthoedd o gydraddoldeb a chynaladwyedd.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n gadarn i sicrhau Cymru decach a gwyrddach, gyda ffyniant yn lledaenu’n fwy cyfartal,” meddai Vaughan Gething.

“Mae canolbwyntio ar gefnogi mwy o fusnesau newydd, meithrin sector busnesau bach a chanolig hyd yn oed yn fwy ffyniannus a blaenoriaethu mentrau sy’n cael eu hysgogi gan arloesedd yn allweddol i hyn.

“Bydd y gronfa newydd yr wyf yn ei chyhoeddi heddiw yn adeiladu ar lwyddiant y grant blaenorol ac yn mynd i’r afael â’r heriau sy’n deillio o ddod â chynllun ffyrlo Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ben. Bydd hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldeb a mynd i’r afael â thlodi drwy leihau diweithdra a dileu rhwystrau i’r farchnad lafur.

“Nod y cyllid newydd yw cefnogi dros 100 o entrepreneuriaid ifanc, a chynnig cyfleoedd i 400 o bobol eraill a fyddai fel arall yn wynebu mwy o heriau i fod yn hunangyflogedig.

“Bydd y cymorth a’r grant ychwanegol hwn yn darparu llwybr cadarnhaol i bobol ifanc, gan gyflawni’r cynnig o hunangyflogaeth yn ein Gwarant uchelgeisiol i Bobl Ifanc.”