Mae Cymru yn “agosach nag erioed” at gyflwyno rheoliadau ar gyfer cadw mwncïod a phrimatiaid eraill.
Yn ôl amcangyfrifon, mae tua 120 o fwncïod yn cael eu cadw fel anifeiliaid anwes dros Gymru, ac mae elusen yr RSPCA wedi bod yn galw am waharddiad ers tro.
Mae’r elusen wedi gwahodd yr amodau yn Neddf Anifeiliaid a Gedwir newydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a fydd yn gwahardd pobol rhag cadw primatiaid fel anifeiliaid anwes heb drwydded.
Mae disgwyl i’r un rheoliadau ddod i rym yng Nghymru, wedi i Lywodraeth Cymru newid eu meddyliau a phenderfynu eu bod nhw’n hapus i’r rheoliadau fod yn berthnasol i Gymru.
Fis diwethaf, cafodd cyfres o ddiwygiadau i’r Ddeddf Anifeiliaid a Gedwir eu cynnig yn San Steffan, a fyddai’n golygu bod y cynlluniau ar gyfer primatiaid yn berthnasol i Gymru hefyd.
Y Bil
Dan gynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, bydd rhaid i brimatiaid sy’n cael eu cadw’n breifat gael eu cofrestru a chael eu harchwilio.
Fydd pobol ddim yn cael eu cadw nhw yng Nghymru na Lloegr oni bai bod ganddyn nhw drwydded arbennig.
Bydd rhaid i berchnogion gwrdd â gofynion penodol, gan gynnwys gofynion yn ymwneud ag amgylchedd yr anifail, ei ddiet, ei lety, a’i anghenion ymddygiadol.
Gweinidogion Llywodraeth Cymru fydd yn gosod yr amodau yng Nghymru, a bydd rhaid i Aelodau’r Senedd basio mesur i roi caniatâd deddfwriaethol i’r bil ddod yn gyfraith yng Nghymru.
Cafodd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ei gyflwyno gerbron y Senedd yr wythnos ddiwethaf (dydd Gwener, Rhagfyr 10), gan adlewyrchu’r diwygiadau oedd wedi’u gwneud i’r Bil ar lefel Llywodraeth San Steffan.
Mae’r RSPCA yn cefnogi bwriad y Bil i wahardd cadw primatiaid fel anifeiliaid, ond maen nhw’n pryderu ei fod yn dibynnu gymaint ar raglen drwyddedau a fyddai’n cael ei gweinyddu gan awdurdodau lleol.
Maen nhw’n gobeithio gweld y rhaglen honno’n cael ei thynhau pan fydd y bil yn mynd drwy San Steffan yn 2022.
‘Cadarnhaol iawn’
Dangosodd arolwg gan yr RSPCA fod 72% o’r cyhoedd yng Nghymru o blaid gwahardd pobol rhag cadw primatiaid fel anifeiliaid anwes.
Dywed Dr Ros Clubb, o adran bywyd gwyllt yr elusen, fod y diwygiadau diweddar i’r Ddeddf Anifeiliaid a Gedwir yn “gadarnhaol iawn” wedi i Lywodraeth Cymru newid eu meddyliau, a’u bod nhw’n golygu bod cyflwyno rheoliadau ar gadw primatiaid yn “agosach nag erioed”.
“Mor ddiweddar â mis Ionawr, doedd Llywodraeth Cymru ddim yn bwriadu cyflwyno’r gwaharddiad,” meddai.
“Ond fe wnaeth yr RSPCA barhau i ymgyrchu ar y mater, ac rydyn ni’n falch iawn bod disgwyl i’r cynigion yn y Ddeddf Anifeiliaid a Gedwir fod yn berthnasol i Gymru.
“Mae’r RSPCA yn eglur bod cwrdd ag anghenion mwncïod a phrimatiaid eraill yn amhosib, i bob diben, mewn amgylchedd domestig.
“Er hyn, mae amcangyfrifon yn dweud bod tua 120 yn byw felly yng Nghymru – sy’n achosi pryder; felly rydyn ni wir angen gweld Bil Anifeiliaid a Gedwir wedi’i chryfhau yn dod yn gyfraith, ac i’r Senedd basio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.
“Mae’r cyhoedd yng Nghymru wedi dangos cefnogaeth gref dros y gwaharddiad – felly rydyn ni’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’u pwerau i sicrhau bod yr amodau lle gellir cadw primatiaid yn cael eu seilio ar dystiolaeth a bod y safon yn ddigon uchel; ac nad yw’r Bil yn rhoi gormod o bwysau ar awdurdodau lleol, sydd wedi’u gorymestyn yn barod, yn y pendraw.”