Mae teulu Daniel Morgan, a gafodd ei ladd mewn maes parcio yn ne Llundain 34 mlynedd yn ôl, yn paratoi i gymryd camau cyfreithiol yn erbyn Heddlu Llundain tros yr achos.
Cafodd y Cymro, a oedd yn dditectif preifat, ei ladd ar Fawrth 10, 1987 ar ôl mynd i dafarn yn Sydenham, a chafwyd hyd i’w gorff yn y maes parcio â bwyell yn ei ben.
Dydi’r llofruddiaeth heb gael ei ddatrys ac ym mis Mehefin, fe wnaeth panel annibynnol gyhuddo Heddlu Llundain o “ffurf ar lygredd sefydlog” am gelu neu wadu methiannau yn yr achos.
Fe wnaeth y Comisiynydd Cressida Dick ymddiheuro wrth deulu Daniel Morgan, gan ddweud ei fod yn “fater o edifeirwch mawr nad oes cyfiawnder a bod ein camgymeriadau wedi dwysáu poen teulu Daniel”.
Cwyn sifil
Yn ôl y BBC heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 13), mae’r teulu wedi dweud mewn datganiadau eu bod nhw’n “drist ond ddim wedi’u syfrdanu” o wybod eu bod nhw “wedi cael eu gadael lawr eto” yn sgil y diffyg gweithredu wedi i’r adroddiad gan y panel annibynnol gael ei gyhoeddi.
Dywedodd y teulu nad oes ganddyn nhw unrhyw ddewis ond cyflwyno achos sifil yn erbyn yr heddlu “er mwyn ceisio dod o hyd i ryw lun o atebolrwydd”.
Mae llythyr sy’n amlinellu’r achos wedi cael ei yrru at y llu, yn ôl y BBC.
“Gallwn gadarnhau fod Gwasanaeth Heddlu y Metropolitan wedi derbyn llythyr yn cwyno, gyda’r dyddiad 7 Rhagfyr arno, a’i bod yn ystyried yr ymateb ar hyn o bryd,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.
“Ers i Banel Annibynnol Daniel Morgan gyhoeddi eu hadroddiad chwe mis yn ôl, mae tîm ymrwymedig o fewn Heddlu Llundain wedi cael ei sefydlu ac maen nhw’n gweithio ar eu hymateb ar gyfer yr argymhellion hynny oedd yn benodol ar gyfer Heddlu Llundain, wrth drafod gyda sefydliadau eraill oedd yn cael eu henwi yn yr adroddiad.
“Rydyn ni’n parhau’n ymrwymedig i’r gwaith hwn, ac yn disgwyl gallu adrodd yn llawn ar ein cynnydd wrth yr Ysgrifennydd Cartref a Swyddfa’r Maer yn ystod gwanwyn 2022.”