Mae brawd Daniel Morgan, a gafodd ei ladd mewn maes parcio yn ne Llundain yn 1987, ymhlith y rhai sy’n galw mewn llythyr agored am ymddiswyddiad Comisiynydd Heddlu Llundain.

Cafodd y Cymro, oedd yn dditectif preifat, ei ladd ar Fawrth 10, 1987 ar ôl mynd i dafarn yn Sydenham ac fe gafwyd hyd i’w gorff yn y maes parcio â bwyell yn ei ben.

Roedd plaster o amgylch dolen y fwyell er mwyn atal olion bysedd rhag cael eu gadael ar yr arf.

Fis Mehefin, fe wnaeth adroddiad gyhuddo’r heddlu o lygredd sefydliadol, honiadau a gafodd eu gwadu gan benaethiaid yr heddlu.

Yn y llythyr, mae’r Fonesig Cressida Dick wedi’i chyhuddo o “lywyddu dros ddiwylliant o anallu a chelu”, ac mae’r awduron a’u cefnogwyr yn galw ar Swyddfa Annibynnol Cwynion yr Heddlu i gyflwyno diwygiadau.

Maen nhw’n galw am ymchwiliad i’w hymddygiad, ynghyd ag ymddygiad “ei chylch mewnol y gwnaeth hi eu penodi ac sydd â chwestiynau i’w hateb”, ac am benodi rhywun o’r tu allan i Lundain i’r swydd a fyddai’n gwbl annibynnol.

Ymhlith y rhai eraill sydd wedi llofnodi’r llythyr mae’r Fonesig Doreen Lawrence, mam Stephen Lawrence, a gafodd ei lofruddio yn dilyn ymosodiad hiliol yn 1993, a gwraig yr Arglwydd Brittan, oedd wedi’i amau ar gam o gam-drin plant yn rhywiol yn ystod Operation Midland, gyda’i wraig yn destun archwiliad o’i chartref.

Estyniad i’w chytundeb?

Daw’r llythyr yn dilyn sibrydion y gallai’r Fonesig Cressida Dick gael cynnig ymestyn ei chytundeb am ddwy flynedd arall.

Cafodd ei phenodi’n Gomisiynydd Heddlu Llundain fis Ebrill 2017, a hi oedd y ddynes gyntaf i gael ei phenodi i’r swydd ers ei sefydlu yn 1829.

Mae ei chytundeb presennol yn dod i ben fis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Mae’r Guardian yn adrodd bod Priti Patel, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, wedi penderfynu cynnig cytundeb newydd iddi yn dilyn ymgynghoriad â Sadiq Khan, Maer Llundain, a Downing Street.

Yn ôl y sôn, doedden nhw ddim yn credu bod yr ymgeiswyr posib i’w holynu yn barod ar gyfer y rôl.

Mae hi wedi cael ei beirniadu droeon ynghylch y ffordd mae hi a’r heddlu wedi ymdrin â sawl achos, gan gynnwys eu dulliau llawdrwm yn ystod gwylnos er cof am Sarah Everard, a gafodd ei llofruddio gan y plismon Wayne Couzens ym mis Mawrth.

Mae’r llu hefyd dan y lach am ddulliau o chwilio pobol ar hap, sydd yn cosbi pobol groenddu yn anghymesur, a’r modd yr aethon nhw ati i geisio atal trais yn stadiwm Wembley yn ystod rownd derfynol Ewro 2020 eleni.

Mae’r llu hefyd wedi bod yn ceisio ymdopi â honiadau ffug o gam-drin rhywiol gan Carl Beech yn erbyn nifer o enwogion.

Ymateb Heddlu Llundain

Mae’r Fonesig Cressida Dick eisoes wedi amddiffyn Heddlu Llundain yn dilyn cyhoeddi adroddiad i’r ymchwiliad yn achos Daniel Morgan, ar ôl iddi wrthod derbyn argymhellion adroddiad panel annibynnol.

Mae hi hefyd wedi amddiffyn ei staff yn dilyn beirniadaeth ar ôl Ewro 2020.

Yn y gorffennol, mae hi wedi gwadu bod yr heddlu’n “sefydliadol hiliol”, ond mae hi’n cydnabod nad yw’n “rhydd rhag gwahaniaethu, hiliaeth na rhagfarn”.

Mae ei dirprwy Syr Stephen House eisoes wedi ymddiheuro am fethiannau’r heddlu yn dilyn Operation Midland, ond roedd yn mynnu na fu unrhyw gelu.

Mae’r llu hefyd yn amddiffyn adolygiad barnwrol yn achos Sarah Everard.

Mae swyddfa Maer Llundain wedi gwrthod gwneud sylw, a dydy Swyddfa Annibynnol Cwynion yr Heddlu ddim wedi gwneud sylw hyd yn hyn.