Dylai plant a phobol ifanc sy’n byw gyda chyflwr yr ymennydd sy’n cael ei achosi gan dderbyn alcohol yn y groth gael cefnogaeth benodol, yn ôl elusen.

Dywed Adoption UK fod yn rhaid sgrinio pob plentyn sy’n mynd i mewn i’r system gofal ar gyfer anhwylder sbectrwm alcohol y ffetws (FASD), gan annog pob cenedl yn y Deyrnas Unedig i fuddsoddi yn eu lles.

Daw eu galwad ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth FASD Rhyngwladol a blwyddyn ar ôl i adroddiad ganfod fod chwarter y plant sydd wedi’u mabwysiadu yn cael diagnosis neu fod amheuon o’r cyflwr.

Canfu adroddiad yr elusen, a gafodd ei gyhoeddi fis Medi y llynedd, fod 55% o deuluoedd a gafodd eu holi wedi aros o leiaf ddwy flynedd i’w plentyn gael diagnosis o’r anhwylder.

Eleni, dywedodd yr elusen eu bod yn galw ar weinyddiaeth Stormont yng Ngogledd Iwerddon, Llywodraeth Cymru a San Steffan i efelychu llwyddiant y ganolfan FASD yn yr Alban.

Mae hefyd yn galw ar Lywodraeth yr Alban i ymrwymo i ariannu eu canolfan yn y tymor hir.

“Mae camau mawr wedi’u cymryd yn yr Alban o amgylch FASD ond rydym yn dal i fod yn bell i fynd i sicrhau bod unigolion sydd â FASD a’u teuluoedd yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt ar frys,” meddai Sue Armstrong Brown, prif weithredwr Adoption UK.