Mae cyn-Faer a chynghorydd tref Doc Penfro wedi cael ei geryddu gan bwyllgor safonau Cyngor Sir Penfro.
Fe ddaeth y Pwyllgor Safonau i’r casgliad fod y delweddau a gafodd eu cyhoeddi yn rhai hiliol yn erbyn pobol ddu.
Ymddiswyddodd Peter Kraus o Gyngor Tref Doc Penfro fis Mehefin y llynedd.
Fe bostiodd e luniau ar dudalen Facebook oedd yn dangos grŵp o fwncïod ar ben car mewn parc saffari, wedi’i baru â delwedd o brotestwyr duon yn sefyll ar gar heddlu yn ystod terfysgoedd.
Honnodd ei fod e wedi’i hacio, ond cyfaddefodd maes o law ei fod wedi’i bostio ei hun.
Ar y pryd, dywedodd nad oedd erioed yn ei fywyd wedi bod yn hiliol.
Dywedodd y gŵr 68 oed, oedd yn Faer ar dref Doc Penfro rhwng 2012 a 2013 fod ganddo “lawer o ffrindiau du a gwyn ledled y byd”.
“Mae’r llun dan sylw yn golygu bod y protestwyr yn waeth nag anifeiliaid ac yn mwynhau dinistrio pethau, boed hynny’n gerbydau, adeiladau neu gerfluniau,” meddai yn ei neges.
‘Dwyn anfri ar ei awdurdod’
Daeth y sylwadau yn sgil llofruddiaeth George Floyd yn yr Unol Daleithiau dan law swyddog heddlu ym Minneapolis.
Ddoe (dydd Mercher, Medi 8), penderfynodd pwyllgor safonau’r Cyngor Sir fod Mr Kraus wedi dwyn ‘anfri’ ar ei swydd fel cynghorydd tref drwy rannu’r delweddau.
Daethon nhw i’r casgliad hefyd ei fod wedi torri’r côd ymddygiad drwy fethu â dangos parch ac ystyriaeth i eraill.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor Corrina Kershaw y “byddai unrhyw berson rhesymol yn ymwybodol bod y ddelwedd a gyhoeddwyd ar Facebook gan y cyn-gynghorydd Kraus yn debygol o gael ei dehongli’n hiliol a/neu’n ddifrïol i bobol ddu”.
Fe ychwanegodd “trwy beidio â dangos parch ac ystyriaeth i eraill”, ei fod yn “cynnal ei hun mewn modd y gellid ei ystyried yn hawdd fel un sy’n dwyn anfri ar ei swydd neu ei awdurdod.”