Ddylai’r Deyrnas Unedig ddim cymryd ei hapêl ymhlith myfyrwyr rhyngwladol “yn ganiataol”, yn ôl adroddiad newydd sy’n dangos bod Prifysgol Caerdydd ymhlith y rhai lle mae myfyrwyr o dramor yn cyfrannu fwyaf at yr economi.

Daw hyn yn dilyn cwymp sydyn yn nifer y myfyrwyr sy’n dod o wledydd yr Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit.

Amcangyfrifir mai tua £28.8bn yw cyfanswm y manteision economaidd o dderbyn myfyrwyr rhyngwladol newydd i economi’r Deyrnas Unedig, yn ôl y dadansoddiad gan Universities UK International (UUKi) a’r Sefydliad Polisi Addysg Uwch (Hepi).

Mae’r adroddiad yn awgrymu bod pob etholaeth seneddol yn y Deyrnas Unedig yn elwa’n ariannol ar fyfyrwyr rhyngwladol.

Daw hyn wrth i nifer y myfyrwyr rhyngwladol ym mhrifysgolion y Deyrnas Unedig gael ei heffeithio gan yr ansicrwydd sydd wedi’i achosi gan Covid-19 a newidiadau i’r strwythur ffioedd dysgu ar gyfer myfyrwyr yr Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit.

Mae nifer y myfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd sy’n cael eu derbyn ar gyrsiau gradd 56% yn is eleni nag ar yr un pryd y llynedd, tra bod myfyrwyr rhyngwladol y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd wedi cynyddu 5%.

Ar gyfartaledd ar draws pob rhanbarth, mae myfyrwyr rhyngwladol yn gwneud cyfraniad economaidd net o £40m i economi’r Deyrnas Unedig fesul etholaeth seneddol, sy’n cyfateb i tua £390 y pen.

Bydd yr Ysgrifennydd Addysg Gavin Williamson a’r Athro Steve West, Llywydd UUK, yn annerch arweinwyr prifysgolion mewn cynhadledd wyneb yn wyneb yn Newcastle.

Caerdydd yn cyfrannu

Mae myfyrwyr rhyngwladol yng Nghaerdydd Sheffield, Nottingham, Llundain, Glasgow a Newcastle ymhlith y rhai sy’n cyfrannu fwyaf yn ariannol.

“Mae’r adroddiad hwn yn cadarnhau mai addysg uwch yw un o enillion allforio mwyaf y Deyrnas Unedig,” meddai Nick Hillman, cyfarwyddwr y Sefydliad Polisi Addysg Uwch.

“Mae’r manteision yn cyrraedd pob rhan o’r Deyrnas Unedig, o Land’s End i John O’Groats.

“Ond nid dim ond manteision ariannol y mae myfyrwyr rhyngwladol yn eu cynnig.

“Maen nhw hefyd yn dod â manteision addysgol drwy wneud ein campysau’n lleoedd mwy amrywiol a chyffrous i fod.

“Er mwyn manteisio i’r eithaf ar y manteision hyn, mae angen i ni ddarparu croeso cynnes, sicrhau bod ein cynnig addysgol yn parhau i fod yn gystadleuol ac yn helpu myfyrwyr rhyngwladol i sicrhau gyrfaoedd boddhaus ar ôl astudio.

“Mae’r amgylchedd polisi, mewn sawl ffordd, yn fwy ffafriol nag yr oedd, gyda’r Llywodraeth yn raddol yn dod yn fwy cadarnhaol am fyfyrwyr rhyngwladol.

“Ond mae’r haneru presennol yn nifer myfyrwyr yr Undeb Ewropeaidd yn cadarnhau na ellir cymryd llwyddiant yn y dyfodol yn ganiataol.”