Mae disgwyl i Boris Johnson ad-drefnu Cabinet Llywodraeth Prydain heddiw (dydd Iau, Medi 9), ac mae yna sïon yn San Steffan y gallai Ysgrifennydd Cymru golli ei swydd.

Daw hyn yn dilyn adroddiadau gan Brif Ohebydd Gwleidyddol, Jon Craig, sy’n dweud bod Simon Hart ymysg nifer o aelodau seneddol Ceidwadol a allai adael y Cabinet.

Mae Aelod Seneddol Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro wedi bod yn y Cabinet ers i Alun Cairns, Aelod Seneddol Bro Morgannwg, ymddiswyddo cyn yr Etholiad Cyffredinol yn Rhagfyr 2019.

Cynyddodd y Ceidwadwyr nifer eu haelodau seneddol yng Nghymru o chwech yn yr un etholiad, gan roi mwy o ddewis iddyn nhw o ran ymgeiswyr ar gyfer y swydd.

Mae’r prif weinidog wedi bod yn sôn am gyhoeddi ad-drefnu’r Cabinet heddiw, er i Downing Street ddweud nad oes “unrhyw gynlluniau”.

Yn ôl Adrian Masters, Golygydd Gwleidyddol ITV Cymru, ar Twitter: ‘Mae Ysgrifennydd Cymru wedi gwrthod darogan ad-drefniant cabinet posib, ble mae sïon y bydd ad-drefniant ar y gorwel agos.

‘Dywedodd Simon Hart wrth ohebwyr ei fod yn rhoi’r ateb stoc “Rydym yn parhau i fwrw ymlaen gyda’n swyddi”.’

Tra bod sïon am Ysgrifennydd Cymru yn colli ei swydd, mae disgwyl i Ysgrifennydd yr Alban gael ei ddyrchafu i rôl uwch yn y cabinet.

Darogan diswyddiadau a dyrchafiadau

Mae dyfodol yr Ysgrifennydd Addysg Gavin Williamson hefyd yn ansicr, gyda chwestiynu hefyd tros ddyfodol yr Ysgrifennydd Tramor Dominic Raab a’r Ysgrifennydd Cartref Priti Patel.

Mae’n bosib y bydd y Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet Michael Gove a Liz Truss, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol, yn cael dyrchafiad.

Mae sibrydion mai pwrpas cynnal y sïon am yr ad-drefnu oedd er mwyn sicrhau bod aelodau seneddol yn parhau i bleidleisio o blaid y mesur Yswiriant Gwladol, ac mewn gwirionedd, na fydd unhryw ad-drefnu go iawn tan fis Hydref na mis Tachwedd.