Mae Priti Patel, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, wedi cymeradwyo tactegau newydd i ailgyfeirio cychod ffoaduriaid yn y Sianel yn ôl i Ffrainc.
Yn ôl adroddiadau, mae hi wedi gorchymyn swyddogion i ailysgrifennu cyfreithiau morol i ganiatáu i’r Llu Ffiniau droi cychod o gwmpas, gan eu gorfodi i gael eu trin gan awdurdodau Ffrainc.
Daw hyn yn dilyn cyfarfod gweinidog mewnol G7 ddoe (dydd Mercher, Medi 8), pan ddywedodd Priti Patel wrth ei chyd-weinidog yn Ffrainc fod y cyhoedd yn y Deyrnas Unedig yn “disgwyl gweld canlyniadau”.
Yn ôl The Times, penderfyniad y capten fyddai defnyddio’r dacteg neu beidio yn y pen draw.
Mae lle i gredu bod amrywiaeth o opsiynau ar gyfer dod o hyd i ffyrdd o atal cychod bach rhag gwneud y daith ar draws y Sianel yn cael eu gwerthuso a’u profi.
Cynhaliodd Priti Patel a gweinidog mewnol Ffrainc, Gerald Darmanin, drafodaethau ar groesfannau yn Lancaster House yn Llundain, yn sgil cannoedd o ffoaduriaid yn cael eu cludo i’r lan yng Nghaint dros y dyddiau diwethaf.
Daw hyn ddyddiau’n unig ar ôl i Priti Patel ddweud wrth aelodau seneddol ei bod yn barod i atal miliynau o bunnoedd o arian a gafodd ei addo i Ffrainc i helpu i gynyddu patrolau oni bai bod gwelliant yn nifer y ffoaduriaid sy’n cael sylw gan awdurdodau Ffrainc.
Yn ôl y Swyddfa Gartref, bu’n rhaid i awdurdodau’r Deyrnas Unedig achub neu ymyrryd â theithiau 456 o bobol fel rhan o 17 digwyddiad ddydd Mawrth (Medi 7), a 301 o bobol fel rhan o naw digwyddiad ddoe (dydd Mercher, Medi 8), tra bod y Ffrancwyr wedi adrodd cyfanswm o 18 o ddigwyddiadau dros y ddau ddiwrnod gan atal cyfanswm o 628 o bobol rhag cyrraedd y Deyrnas Unedig.
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y Deyrnas Unedig a Ffrainc gytundeb i fwy na dyblu nifer yr heddlu sy’n patrolio traethau Ffrainc.
Hwn oedd yr ail addewid o’i fath mewn blwyddyn, mewn ymgais i atal cychod bach rhag gadael Ffrainc.