Mae Cymru wedi cofnodi ei noson boethaf erioed ym mis Medi.
Roedd y tymheredd wedi cyrraedd isafbwynt o 20.5 gradd selsiws yn Aberporth yng Ngheredigion.
Mae hyn yn trechu’r record flaenorol o 18.9 gradd selsiws yn y Rhyl yn 1949.
Mae’n cael ei disgrifio fel noson drofannol, gyda’r tymheredd yn aros yn uwch nag 20 gradd selsiws drwy gydol y nos.
Mae rhybudd erbyn hyn am stormydd a chawodydd trwm, gyda rhybudd melyn yn ei le mewn rhannau helaeth o’r wlad heddiw (dydd Iau, Medi 9).
Yr Alban
Mae’r Alban hefyd wedi profi gwres llethol, gyda’r tymheredd ar ei uchaf ers 1906.
Roedd hi’n 28.6 gradd selsiws yng ngororau’r wlad ddoe (dydd Mercher, Medi 8), y tymheredd mwyaf ers i Moray brofi tymheredd o 32.2 gradd selsiws 115 o flynyddoedd yn ôl.