Gall ysgol gynradd Gymraeg gael ei chreu ym Mhowys os bydd cynlluniau i newid categori yr iaith eu cymeradwyo gan y cyngor sir.

Mae Cyngor Sir Powys yn cynnig newid y ddarpariaeth iaith yn Ysgol Dyffryn Trannon yn Nhrefeglwys fel y daw’n lleoliad addysg cyfrwng Cymraeg.

Bydd hyn yn sicrhau bod pob disgybl sy’n mynychu’r ysgol yn dod yn gwbl ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae’n ysgol dwy ffrwd ar hyn o bryd sy’n darparu addysg cyfrwng Saesneg a Chymraeg i ddisgyblion pedair i un mlwydd ar ddeg.

Byddai’r newid arfaethedig yn cael ei gyflwyno fesul cam o flwyddyn i flwyddyn gan ddechrau gyda’r dosbarth Derbyn ym mis Medi 2022.

Statudol

Ni fyddai’n effeithio ar y disgyblion hynny sy’n mynychu’r ysgol yn barod.

Byddai’r disgyblion sy’n derbyn eu haddysg trwy Saesneg yn yr ysgol ar hyn o bryd yn parhau i wneud hynny nes iddyn nhw adael yr ysgol.

Yn gynharach eleni, rhoddodd Cabinet Cyngor Sir Powys sêl bendith i gyhoeddi’n ffurfiol hysbysiad statudol yn cynnig y newid.

Cafodd hyn ei gyhoeddi ym mis Mehefin. Yn ystod y cyfnod rhybudd statudol, daeth dau wrthwynebiad i law.

Ar ddydd Mawrth, Medi 14, bydd y Cabinet yn derbyn ac yn ystyried yr adroddiad gwrthwynebu a gofynnir i’r Cabinet gymeradwyo’r cynnig i wneud newid rheoleiddiedig i newid cyfrwng y cyfarwyddyd yn Ysgol Dyffryn Trannon o ddwy ffrwd i gyfrwng Cymraeg fesul cam.

Dwyieithog

“Bydd symud Ysgol Dyffryn Trannon ar hyd y continwwm iaith yn ein helpu i gyflawni nodau ac amcanion ein Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys,” meddai Rosemarie Harris, arweinydd Cyngor Sir Powys.

“Bydd hefyd yn sicrhau bod pob disgybl sy’n mynychu’r ysgol yn cael cyfle i ddod yn gwbl ddwyieithog, yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg. Byddai hyn yn ei dro’n cyfrannu at ddyhead Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”

I gael gwybod mwy am addysg Cyfrwng Cymraeg ym Mhowys, ewch i https://cy.powys.gov.uk/ysgolion a chliciwch ar ‘Taith at y Ddwy Iaith’.