Fe wnaeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr achosi “anghyfiawnder” i wyth claf a fu’n dioddef o ganser y prostad ar ôl methu â monitro eu gofal a’u triniaeth yn briodol.

Lansiodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ymchwiliad i’r Bwrdd Iechyd ar ôl i adroddiad i achos claf godi “amheuaeth resymol” fod digwyddiadau pellach o fethiant gwasanaeth a chamweinyddu yn gysylltiedig â chleifion eraill oedd ar y rhestr aros yn Awst 2019.

Fe wnaeth yr Ombwdsmon ystyried a oedd y Bwrdd Iechyd wedi cymryd yn hirach na’r targed amser i drin 16 claf oedd yn aros am brostadectomi.

Cafodd wyth o’r cleifion eu cyfeirio i Loegr, a wnaeth hi ddim cymryd yn hirach na’r targedau amser i’w trin.

Daeth yr ymchwiliad i’r casgliad na chafodd y cleifion hynny eu cynnwys mewn adroddiadau toramod, ac ni chafodd effaith a niwed yr amser aros arnyn nhw ei hasesu.

Pe bai’r cleifion hyn wedi cael triniaeth yng Nghymru, byddai achosion o dorri’r amserlenni targed wedi’u nodi.

O gymharu, fe gymerodd yn hirach na’r targedau amser i drin pedwar claf gafodd eu trin yng Nghymru hefyd, ond cafodd yr achosion hynny eu hadrodd, a chafodd adolygiadau niwed eu cwblhau ar eu cyfer.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw’n disgwyl i’r bwrdd iechyd gael polisïau ar y cyd â darparwyr yn Lloegr er mwyn iddyn nhw ddilyn safonau Cymru ynghylch adroddiadau toramod ac adolygiadau niwed.

‘Anghyfiawnder’

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â monitro’r broses o ddarparu gofal a thriniaeth i bob claf fel y dylai fod wedi’i wneud dan drefniadau contractio a chomisiynu.

“Er bod safbwynt polisi Cymru ar y pryd yn golygu nad oedd unrhyw ofyniad i gynhyrchu adroddiad toramod i Lywodraeth Cymru na chynnal adolygiadau niwed i gleifion a gafodd eu trin yn Lloegr, ni ddylai lleoliad daearyddol y driniaeth fod wedi gadael yr wyth claf hyn mewn sefyllfa lle gwrthodwyd y broses adolygu niwed iddynt am eu bod wedi cael eu trin y tu allan i Gymru,” meddai Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

“Ni waeth beth fo safbwynt polisi Cymru ar y pryd, roedd yn ofynnol i’r Bwrdd Iechyd fonitro gofal a thriniaeth ei gleifion yn briodol o dan ei drefniadau comisiynu a chontractio.

“Dylai hefyd fod wedi ystyried effaith yr oedi cyn triniaeth yn yr achosion hyn. Roedd y methiannau hyn yn gyfystyr â chamweinyddu.

“Mae’r Llwybr Canser Sengl, sydd wedi disodli’r holl dargedau canser blaenorol, wedi mynd i’r afael ag anghysondeb y dull blaenorol.

“Bellach, rhaid cynnwys pob claf sy’n cael eu cyfeirio o ofal eilaidd am driniaeth y tu allan i Gymru ar gyfer eu triniaeth ganser mewn trefniadau monitro amseroedd aros am driniaeth canser. Hefyd, dylai pob claf na chaiff ei drin o fewn yr amserlenni targed gael adroddiad toramod mewnol wedi’i gwblhau.”

Argymhellion

Mae’r Ombwdsmon wedi argymell i’r Bwrdd Iechyd gynnal adolygiad niwed i bob un o’r wyth claf, ac adolygu ei broses wrth adolygu niwed i sicrhau ei fod yn unol â gofynion y Llwybr Canser Sengl.

“Rwyf bellach wedi adrodd am wasanaeth wroleg y Bwrdd Iechyd sawl gwaith, ac rwy’n pryderu bod materion yn ymwneud â chapasiti a chynllunio olyniaeth o fewn yr adran wroleg yn ymddangos yn hirsefydlog,” meddai wedyn.

“Felly, rwyf wedi argymell bod y Bwrdd Iechyd yn cyfeirio’r adroddiad at ei Fwrdd i ystyried capasiti a chynllunio olyniaeth ar gyfer yr adran wroleg.”

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi derbyn canfyddiadau a chasgliadau adroddiad yr Ombwdsmon ac wedi cytuno i weithredu’r argymhellion.

Plaid Cymru yn cyhuddo Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr o “weinyddu’n aneffeithiol” dros restrau aros

Yn ôl Llefarydd Iechyd y blaid, Rhun ap Iorwerth mae’r bwrdd iechyd yng Ngogledd Cymru yn gweinyddu’n aneffeithiol â rhestrau aros cleifion.