Mae llefarydd Iechyd Plaid Cymru wedi lleisio pryderon am weinyddu aneffeithiol gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr am bobol sydd ar restrau aros.

Heddiw (dydd Iau, Medi 9), mae adroddiad wedi’i gyhoeddi er budd y cyhoedd o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019, yn dilyn ymchwiliad i gŵyn yn erbyn y bwrdd iechyd.

Gwnaeth yr ymchwiliad edrych ar “achosion posibl o fethiant gwasanaeth a chamweinyddu” oedd yn ymwneud ag 16 o gleifion oedd yn aros am driniaeth frys am ganser y prostad ym mis Awst 2019.

Canfuwyd bod cleifion nad oedd yn cael eu danfon i Loegr am driniaeth wedi’u cynnwys mewn adroddiadau os oedden nhw’n mynd dros amseroedd rhestrau aros.

Golyga hyn na wnaed asesiadau i weld os oedd niwed wedi eu hachosi i gleifion o ganlyniad i restrau aros.

‘Ergyd i hyder’

“Mae’n destun pryder mawr i ddysgu bod yr arfer o gyfeirio cleifion at ddarparwyr triniaeth y tu allan i Gymru yn golygu nad oedd y cleifion hyn yn derbyn y safonau a nodwyd ym mholisi iechyd Cymru, ac nad oeddent wedi’u cynnwys mewn adroddiadau amser targed a gollwyd,” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Er y gallwn gymryd rhywfaint o gysur bod y bwrdd iechyd wedi derbyn yr argymhellion a wnaed yn yr adroddiad hwn, y gwir amdani yw bod hyn yn ergyd arall i’r hyder sydd eisoes yn wan gan bobl gogledd Cymru yn eu bwrdd iechyd.”

Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y dylai’r bwrdd iechyd fod â pholisïau ar waith gyda darparwyr yn Lloegr i adlewyrchu safonau Cymru megis adroddiadau ac adolygiadau niwed i gleifion.

Ym mis Awst 2019, cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei roi dan fesurau arbennig, oedd yn golygu bod gan Weinidogion Cymru bwerau ymyrryd ffurfiol dros y bwrdd iechyd.

Erbyn 2020, roedd y bwrdd iechyd wedi ei gymryd allan o fesurau arbennig.

Ar y pryd, dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn “amheus” o’r penderfyniad gan ddweud fod problemau’r bwrdd iechyd “yn ddifirifol o wael yn strwythurol, a bod angen newidiadau mawr”.

‘Bwrdd iechyd sy’n rhy fawr a beichus’

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth fod y canfyddiadau hyn yn “ychwanegu at bryderon bod Betsi Cadwaladr wedi bod yn anaddas i bwrpas ers tro gan ei fod yn rhy fawr a beichus”.

“Faint yn fwy o dystiolaeth sydd ei hangen arnom o safonau’n llithro o ganlyniad i gamweinyddu a diffyg cyfeiriad strategol?” meddai.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Methiannau wedi arwain at “anghyfiawnder” i gleifion canser gafodd eu trin yn Lloegr

Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi achosi “anghyfiawnder” i wyth claf â chanser y prostad ar ôl methu â monitro eu gofal a’u triniaeth yn briodol