Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth Cymru yn chwilio am ddiffoddwyr tân Amser Cyflawn – neu llawn amser – ond yn dweud nad oes ganddyn nhw brinder staff.

Cafodd proses recriwtio ei lansio heddiw (dydd Iau, Medi 9), gyda’r nod o chwilio am ymgeiswyr i’r swyddi llawn amser.

Yn wahanol i ddiffoddwyr tân ar alwad, mae diffoddwyr tân llawn amser yn gweithio shifftiau penodol a dydyn nhw ddim yn cael eu galw pan nad ydyn nhw ar ddyletswydd.

Mae’r ymgyrch recriwtio yn rhan o gynllun recriwtio’r Gwasanaeth, ac maen nhw’n anelu at wneud un ymgyrch recriwtio llawn amser bob blwyddyn.

Bydd posib gwneud cais hyd at 11:59 nos Sul, Medi 12.

‘Caru pob eiliad’

Daeth Sioned Evans yn ddiffoddwr tân llawn amser ym Mhontardawe tua blwyddyn a hanner yn ôl, ac mae hi’n dweud wrth bobol am ymgeisio os yw’r syniad yn codi ofn arnyn nhw.

“Os ydych chi’n nerfus, mae’n dangos eich bod chi’n poeni, ac os ydych chi’n poeni ddigon, byddwch chi’n barod amdani,” meddai.

“Dw i wedi bod yn ddiffoddwr tân ar alwad ers bron i bedair blynedd nawr a dw i wedi bod yn ddiffoddwr tân amser cyflawn ym Mhontardawe ers bron i flwyddyn a hanner a dw i’n caru pob eiliad.

“Rhaid nodi, does dim rhaid i chi fod yn ddiffoddwr tân ar alwad i ymgeisio i fod yn ddiffoddwr tân amser cyflawn.

“Dw i wir yn caru fy swydd. Mae’n braf gallu helpu pobol sydd yn aml yn profi diwrnod gwaethaf eu bywydau pan rydyn ni’n cael ein galw.

“Mae yna ymdeimlad o ail deulu o fewn y Gwasanaeth Tân hefyd. Rydych chi’n aml yn cael eich gosod mewn sefyllfa anodd neu ofnus gydag eich cydweithwyr, mae gan bawb ofn ar ryw adeg, ond rydych chi gyda’ch gilydd, bachgen neu ferch, i helpu eich gilydd.

“Byddech chi’n gwneud unrhyw beth i’ch cydweithwyr, a bydden nhw’n gwneud unrhyw beth i chi.

“Mae’n rhan o’r swydd i gefnogi eich gilydd.”

“Cyfle cyffrous”

Dywed Chris Davies, y Prif Swyddog Tân, fod “hwn yn gyfle cyffrous i bobol ymuno â Gwasanaeth Tân ac Achub modern sy’n amrywiol ac yn gynhwysol”.

“Mae rôl y Diffoddwr Tân yn eithriadol o amrywiol. Mae Diffoddwyr Tân nid yn unig yn hyffordd i ymateb i amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, sy’n cynnwys tanau, gwrthdrawiadau traffig ffyrdd, achub dŵr a llawer mwy, maent hefyd yn treulio mwy a mwy o amser yn ymgysylltu â’n cymunedau ac yn eu haddysgu, a hynny er mwyn helpu i atal achosion brys rhag digwydd yn y lle cyntaf.

“Ein gwaith ni yw gwneud ein cymunedau’n fwy diogel, ac mae arnom angen pobl o bob cefndir a all addasu i unrhyw sefyllfa.

“Un funud gallent fod yn achub rhywun o wrthdrawiad traffig ffyrdd neu o dŷ sy’n llosgi, ac yn ddiweddarach gallent fod yn cefnogi unigolyn agored i niwed yn ei gartref neu’n siarad â channoedd o blant ysgol ynghylch atal tân.

“Mae’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn yrfa hynod o werth chweil; un sy’n cynnig datblygiad parhaus ynghyd ag amgylchedd gwaith cyffrous, lle mae pob diwrnod yn wahanol!”