Dr Andrew Goodall yw ysgrifennydd parhaol newydd Llywodraeth Cymru.

Bu’n Brif weithredwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru drwy’r pandemig.

Mae hyn yn golygu y bydd yn olynu’r Fonesig Shan Morgan Jones fel y gwas sifil uchaf yng Nghymru.

Fe fydd e’n gyfrifol am 5,000 o staff ac yn gweithio fel prif ymgynghorydd polisi i’r Prif Weinidog Mark Drakeford.

“Mae wedi bod yn ffigwr blaenllaw yng ngwasanaeth cyhoeddus Cymru ers blynyddoedd lawer, felly rwy’n croesawu’n fawr ei benodiad i’r rôl hon,” meddai’r prif weinidog yn dilyn cadarnhad o’r penodiad.

Mae ysgrifenyddion parhaol yn swyddi sy’n para pum mlynedd union, ac mae disgwyl i’r Fonesig Shan Morgan Jones ymddiswyddo y flwyddyn nesaf.

Er bydd yn gadael ei swydd fis Ebrill nesaf, dydy hi ddim yn glir pryd fydd Dr Goodall yn camu i’w hesgidiau.

Dywedodd y Fonesig Shan: “Rwy’n ystyried fy hun yn hynod ffodus fy mod wedi gweithio gyda grŵp mor wych o bobl ar bethau sydd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl yng Nghymru yn un o’r cyfnodau mwyaf heriol yn ein hanes,” meddai’r Fonesig Shan Morgan Jones.

Wyneb cyfarwydd

Roedd Andrew Goodall yn wyneb cyfarwydd yn ystod cynadleddau Llywodraeth Cymru ar sut roedd y Gwasanaeth Iechyd yn ymdopi â’r pandemig.

Yn ystod ei yrfa, mae e wedi bod yn brif weithredwr y Gwasanaeth Iechyd ers 2014 a chyn hynny, bu’n brif weithredwr ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

“Mae trefniadau’n cael eu rhoi ar waith i sicrhau parhad arweinyddiaeth i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn ystod yr hydref a’r gaeaf sydd i ddod,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.