Roedd 45% o’r digwyddiadau niweidiol difrifol a gafodd eu cofnodi gan y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru yn y flwyddyn cyn y pandemig yn ganlyniad i’r amser gymerodd hi i gyrraedd y claf.

Yn ôl data sydd wedi cael ei ryddhau i’r Ceidwadwyr Cymreig dan gais Rhyddid Gwybodaeth, mae 272 o ddigwyddiadau niweidiol difrifol wedi cael eu cofnodi dros y bum mlynedd a hanner ddiwethaf.

Roedd yr amser gymerodd hi i gyrraedd y claf yn ffactor yn 90 o’r achosion hynny, sy’n gyfystyr â 33.1%.

Mae digwyddiad niweidiol difrifol yn cynnwys unrhyw ddigwyddiad neu amgylchiadau a wnaeth arwain, neu a allai fod wedi arwain, at niwed, colled, neu ddigwyddiad difrifol anfwriadol neu annisgwyl i glaf. Mae hynny’n cynnwys marwolaeth.

Mae data gan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn dangos bod nifer y digwyddiadau niweidiol difrifol yn ymwneud ag amseroedd aros wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf.

Fe wnaeth y niferoedd fwy na dyblu rhwng 2016/17 a 2019/20, cyn gostwng yn sydyn wrth i lai o bobol alw am ambiwlans yn ystod y pandemig.

Bwrdd Iechyd Bae Abertawe oedd â’r ganran uchaf o ddigwyddiadau niweidiol difrifol oedd yn ymwneud â’r amser gymerodd hi i gyrraedd y claf, gyda chanran o 39.2%.

Cafodd yr amseroedd ymateb gwaethaf ar gofnod eu cofnodi gan y Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru yn ddiweddar, ac yn ôl llythyrau gan feddygon, mae cleifion yn marw mewn ambiwlansys gan fod adrannau brys yn orlawn.

‘Problemau enfawr’

Wrth ymateb i’r ystadegau, dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George, fod yr ystadegau hyn yn “peri pryder mawr” a’u bod nhw’n “cadarnhau’r problemau enfawr sy’n wynebu ein gyrwyr ambiwlansys, parafeddygon, a gweithlu adrannau brys”.

“Er ei bod hi’n gadarnhaol nad yw’r amseroedd ymateb ambiwlans gwaethaf ar record wedi arwain at gynnydd anferth mewn digwyddiadau niweidiol difrifol, mae cysondeb yr ystadegau dros sawl blwyddyn yn dangos nad yw coronafeirws yn esgus dros yr achosion hyn,” meddai.

“Mae hynny’n golygu bod y Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd wedi bod â phroblem am sawl blwyddyn ond wedi methu ei chydnabod, pandemig neu beidio.

“Mae’n hanfodol bod gweinidogion yn ymateb nawr i roi gorau ar oedi mewn amseroedd ambiwlansys drwy ryddhau’r pwysau ar adrannau brys mewn tri cham: annog defnyddio gwasanaethau eraill fel unedau man anafiadau neu fferyllfeydd cymunedol, cyflwyno hybiau llawfeddygol rhanbarthol i fynd i’r afael â’r ôl-groniad mewn triniaethau, a gwneud hi’n haws i bobol gael mynediad at wasanaethau meddyg teulu.”

“Gweithio’n galed”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, fel holl wasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar draws y Deyrnas Unedig, yn gweithio’n galed i ymateb i’r heriau parhaus a sylweddol o ganlyniad i’r pandemig.

“Mae’n bwysig bod cael tryloywder, cofnodi ac ymchwilio i ddigwyddiadau i helpu sefydliadau i ddeall a dysgu’n well o’r digwyddiadau hyn.

“Rydym yn darparu cyllid sylweddol i helpu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i wella o’r pandemig, gan gynnwys £240m fel rhan o’n cynllun adfer Covid.

“Mae gwaith ar y gweill hefyd i drawsnewid y gwaith o ddarparu gofal brys. Mae hyn yn cynnwys mwy o wasanaethau gofal brys ar yr un diwrnod, a chreu canolfannau gofal sylfaenol brys i leihau’r galw ar adrannau achosion brys.

“Wrth i ni fynd i’r gaeaf mae’n bwysig bod pobl yn defnyddio’r gwasanaeth cywir ar yr adeg iawn, mae ein hymgyrch Helpu Ni eich Helpu Chi yn annog pobl i gael y cymorth cywir.”

Cynghorydd yn ofni y byddai ei ŵyr wedi marw pe bai wedi aros am ambiwlans

Gareth Wyn Williams, Gohebydd Democratiaeth Leol

Byddai ambiwlans wedi cymryd rhwng wyth a naw awr i fynd o Ysbyty Gwynedd ym Mangor i Gaergybi ar Ynys Môn
Ambiwlans

Y perfformiad gwaethaf o ran adrannau brys ac ambiwlans ers dechrau cofnodion

Fis Hydref, fe wnaeth llai na 65% o gleifion dreulio llai na phedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys