Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth ar ôl i seiclwr 17 oed farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir y Fflint brynhawn Sul (Rhagfyr 12).
Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad ar y B5441 yn ardal Sealand ger y ffin rhwng Cymru a Lloegr toc cyn 5 o’r gloch.
Dydi hi ddim yn glir a oedd cerbyd hefyd yn rhan o’r digwyddiad.
‘Trasig’
Dywed Heddlu’r Gogledd fod y bachgen wedi cael ei gludo i’r ysbyty ond y bu farw’n ddiweddarach.
“Mae’r heddlu’n apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad beic ar y B5441 Sealand Road tua 4.55yh brynhawn Sul,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.
“Yn anffodus, cafodd dyn 17 oed ei gludo i’r ysbyty lle bu farw yn ddiweddarach.
“Ar hyn o bryd, mae’r heddlu’n ymchwilio i’r amgylchiadau a arweiniodd at y digwyddiad trasig hwn ac yn apelio ar dystion i’r digwyddiad i gysylltu â nhw.
“Gofynnir i dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau dashcam a allai gynorthwyo’r ymchwiliad gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 gan ddyfynnu digwyddiad Z180350.”