Jo McIntyre yw Ysgrifennydd Cyffredinol newydd Llafur Cymru, gan olynu Louise Magee.

Bydd hi’n dechrau yn ei swydd ddiwedd mis Ionawr, ac mae hi’n dweud ei bod hi’n “fraint” cael ei phenodi i’r swydd.

Mae hi’n ymgyrchydd profiadol sydd wedi gweithio ar sawl etholiad, gan ddechrau yng ngorllewin Cymru ac wedyn ledled y de. Aeth yn ei blaen wedyn i gefnogi etholiadau lleol yn Llundain.

Ers 2018, hi sydd wedi bod yn gyfrifol am strategaeth etholiadau Llafur ledled y Deyrnas Unedig, gan gydweithio â Llafur Cymru ar etholiadau’r Senedd a’r Comisiynwyr Heddlu yn gynharach eleni.

Yn ôl Mark Drakeford, arweinydd Llafur Cymru a phrif weinidog Cymru, bydd hi’n dod â “chyfoeth o brofiad ac angerdd” gyda hi i’r swydd.

“Bydd hi’n chwarae rhan bwysig wrth sicrhau mai gwerthoedd Cymru yw gwerthoedd Llafur Cymru o hyd, a’n bod ni’n cadw ymddiriedaeth pobol Cymru y brwydrwyd yn galed i’w chael,” meddai.

“Fel Ysgrifennydd Cyffredinol, bydd hi’n arwain tîm gwych o ymgyrchwyr sy’n gweithio bob dydd i sicrhau newid positif yn ein cymunedau ac ym mywydau pobol.”

Ychwanegodd Carolyn Harris, y dirprwy arweinydd, fod gan y blaid “fynydd i’w ddringo” cyn yr etholiad cyffredinol nesaf yn San Steffan, ond y bydd ganddyn nhw “ymgyrchydd sydd wedi profi ei hun” wrth y llyw ac mai Jo McIntyre “yw’r ymladdwr i’n helpu ni” i ddisodli’r Ceidwadwyr.

‘Penderfynol’

“Mae’n fraint gen i gael fy mhenodi’n Ysgrifennydd Cyffredinol Llafur Cymru,” meddai Jo McIntyre.

“Mae gennym ni set mawr o etholiadau lleol i ddod, a dw i’n benderfynol o sicrhau bod pleidleiswyr yn gwybod mai Llafur Cymru yw’r blaid sy’n gweithio drostyn nhw ac sy’n gweithio dros Gymru.

“Mae llawer o waith caled o’n blaenau, ond gyda chefnogaeth pleidleiswyr, aelodau ac ymgyrchwyr Llafur Cymru, byddwn ni’n cipio grym oddi ar y Torïaid ac yn ei roi yn ôl i bobol a chymunedau ledled Cymru.

“Alla i ddim aros i gael dechrau arni.”