Mae Cynghorydd ym Môn yn dweud bod amseroedd ymateb ambiwlansys yn “warthus,” ar ôl i’w ŵyr orfod aros am naw awr cyn bod un yn ei gyrraedd.
Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans ei fod yn ofni y byddai wedi gallu colli ei ŵyr 15 oed pe na bai wedi cael ei ruthro i’r ysbyty, ar ôl iddo gael gwybod y byddai’n gorfod disgwyl hyd at naw awr am ambiwlans i’w gyrraedd yng Nghaergybi.
Mae ei ŵyr Andrew yn dioddef o glefyd siwgr math 1, a dydd Sul diwethaf (Rhagfyr 5), roedd o’n llewygu ac yn chwydu ac roedd angen sylw meddygol arno ar frys.
Yn ystod cyfarfod Cyngor Môn yr wythnos hon, fe alwodd y Cynghorydd Jeff Evans am weithredu yn sgil “gwasanaethau iechyd dirywiedig,” gan ddweud bod y sefyllfa bresennol yn cael “effaith niweidiol ar iechyd a lles y gymuned”.
Profiad erchyll
Fe gyfeiriodd Jeff Evans yn ystod y cyfarfod at y profiad erchyll gawson nhw fel teulu.
“Pan ddeffrodd Andrew, roedd o’n cwympo a llewygu. Roedd o’n sâl, yn chwydu, ac efo pob math o broblemau gwahanol,” meddai.
“Roedd rhaid i fy mab ddychwelyd o’r gwaith, a ffonion nhw’r gwasanaeth ambiwlans i egluro ei fod â chlefyd siwgr a’i fod yn edrych fel pe bai’n syrthio i mewn i goma.
“Ond wedyn cawson nhw wybod y byddai ambiwlans yn cymryd rhwng wyth a naw awr.”
‘Byddwn i wedi colli fy ŵyr’
Yn dilyn hynny, fe wnaeth tad Andrew ei ruthro i Ysbyty Gwynedd ei hun, lle’r oedd staff yn barod i’w gludo i’r uned gofal dwys.
“Yn yr ysbyty, fe wnaethon nhw ganfod symptomau Ketoacidosis Diabetig a lefelau uchel o cetonau yn ei waed – roedd ei gorff yn cau i lawr,” meddai’r cynghorydd wedyn.
“Mae Ketoacidosis Diabetig a choma yn gyflwr sy’n peri bygythiad i fywyd, ac mae’n gallu achosi i glaf fod yn anymwybodol neu hyd yn oed ddisgyn yn farw.
“Mae’r coma yn gildroadwy os yw’n cael ei drin yn syth, ond os oes oedi, mae’n gallu arwain at niwed parhaol i’r ymennydd a marwolaeth.
“Dywedodd yr arbenigwr wrth fy mab y byddai Andrew wedi marw pe na bai wedi cyrraedd yr ysbyty o fewn dwy awr.
“Fyddai’r gwasanaeth ambiwlans heb gyrraedd am wyth awr a hanner, a byddwn i wedi colli fy ŵyr.
“Mae’n hollol warthus.”
Dywedodd y Cynghorydd fod Andrew “ar y llwybr i wella,” ond y bydd o yn yr ysbyty “am beth amser eto.”
‘Symptomau o’r pwysau sydd ar draws yr holl system’
Dywedodd llefarydd ar gyfer y Gwasanaeth Ambiwlans Cymreig eu bod nhw’n cydnabod fod amseroedd ymateb araf yn “symptom o’r pwysau sydd ar draws yr holl system iechyd a gofal cymdeithasol”, gydag oedi wrth ryddhau cleifion yn achosi ciwiau mwy a llai o ambiwlansys ar gael.
Mae’n debyg mai 15 munud ddylai cleifion orfod aros rhwng cael eu cludo o ambiwlans i’r ysbyty.
Er hynny, cadarnhaodd Jason Killens, prif weithredwr y Gwasanaeth Ambiwlans, fod yr amser hwnnw ar gyfartaledd yn ddwy awr 40 munud yn Ysbyty Glan Clwyd, dwy awr a naw munud yn Ysbyty Gwynedd, ac un awr a 32 munud yn Ysbyty Maelor.
‘Mae yna heriau o hyd’
Diolchodd Dr Nick Lyons, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i’r timau sy’n “gweithio’n ddiflino i ddarparu gofal o’r ansawdd uchaf yn ystod yr amseroedd anodd hyn”.
“Mae ein gwasanaethau yn parhau i fod dan bwysau ac mae hyn yn arwain at alw sylweddol ar ein gwasanaethau brys,” meddai.
“Mae yna heriau o hyd i ryddhau cleifion o’r ysbyty i lety neu wasanaethau gofal addas. Mae hyn yn effeithio ar lif trwy’r system ysbytai gyfan, ac ar ein gallu i ddod â chleifion i mewn i’r Uned Achosion Brys mewn modd amserol.
“Rydyn ni’n parhau i weithio gyda’n partneriaid ar yr awdurdodau lleol a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i leihau oedi wrth drosglwyddo gofal i wella llif cleifion, er mwyn rhyddhau capasiti ar gyfer derbyniadau yn yr Adrannau Brys, a sicrhau bod cleifion yn derbyn y gofal gorau posibl trwy gydol y pandemig a dros gyfnod y gaeaf.”