Mae angen “mwy nag ymddiheuriad gan Boris Johnson, yn ôl Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan sy’n galw am “ymddiswyddiad”.

Daw hyn yn dilyn adroddiadau y gallai ymchwiliad i barti Nadolig yn Downing Street y llynedd gael ei ehangu i gynnwys digwyddiadau eraill.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Sajid Javid ar raglen Today BBC Radio 4 nad oedd y prif was sifil Simon Case, sy’n ymchwilio i’r blaid ar Ragfyr 18 2020, “yn ffocysu” ar un dyddiad penodol.

Wrth ymateb i’r digwyddiadau dros y 24 awr diwethaf, dywed Liz Saville Roberts fod gweithredoedd y Prif Weinidog yn rhagrithol.

“Mae angen mwy nag ymddiheuriad am y boen sydd wedi ei hachosi gan ragrith Boris Johnson. Does dim pwynt iddo ymddiheuro ac wedyn taflu’r bai i gyd ar ei staff,” meddai wrth golwg360.

“Os yw’r Llywodraeth am ehangu’r ymchwiliad, dylai ei ehangu i ymchwilio i mewn i ymddygiad anonest a thwyllodrus y Prif Weinidog ei hun.

“Mae’n hen bryd i Boris Johnson ddangos dewrder ac arweinyddiaeth, trwy ymddiswyddo.”

Digwyddiadau eraill

Mae yna adroddiadau hefyd i ddigwyddiadau gael eu cynnal rhwng Tachwedd 13 a 27 y llynedd, pan oedd cyfyngiadau Covid mewn grym.

Cyhoeddodd Boris Johnson ymchwiliad ddoe (dydd Mercher, Rhagfyr 8) i’r parti ar Ragfyr 18 y llynedd, ar ôl i fideo ddod i’r amlwg o staff yn cellwair amdano.

Ddoe, fe ymddiswyddodd Allegra Stratton, ymgynghorydd y llywodraeth, ac mewn datganiad dagreuol, dywedodd y cyn-ymgynghorydd ei bod hi’n “wirioneddol flin”.

Mae’r llywodraeth wedi parhau i fynnu na ddigwyddodd unrhyw barti, ond dywedodd y Prif Weinidog y byddai unrhyw un sydd wedi torri rheolau Covid yn wynebu camau disgyblu.

Ychwanegodd Sajid Javid ei fod wedi cael sicrwydd gan uwch ffigyrau nad oedd yr un parti wedi digwydd ar Ragfyr 18, ond ychwanegodd “[nad yw Simon Case] wedi’i ffocysu ar ddyddiad penodol.”

“Rwy’n credu bod hynny’n bwysig, a’u bod yn sefydlu’r ffeithiau,” meddai.

Wrth gael ei holi ynghylch ymddiswyddiad Ms Stratton, dywedodd, “Dydw i ddim yn gwybod, dydw i ddim wedi siarad â hi am y peth”.

“Efallai mai’r rheswm am hynny oedd fod y fideo wedi codi cywilydd arni a beth ddigwyddodd a’r ffordd roedd pethau’n edrych. Mae’n ddigon posibl y bydd yn rhywbeth felly.”

Dirwyo’r Blaid Geidwadol

Daw’r helynt wrth i’r Comisiwn Etholiadol roi dirwy o £17,800 i’r Blaid Geidwadol am iddyn nhw fethu â “chadw cofnod cyfrifyddu cywir” wrth ailwampio fflat Rhif 10 eleni.

Fe ddaeth y cyhoeddiad hefyd fod Carrie, gwraig y Prif Weinidog, wedi rhoi genedigaeth i ail blentyn y cwpwl.

Mae’r Blaid Geidwadol wedi cael dirwy o £17,800 am “fethu ag adrodd yn gywir am rodd” a dalodd am adnewyddu fflat y Prif Weinidog.

Dywedodd y Comisiwn Etholiadol hefyd fod y blaid wedi methu â “chadw cofnod o gyfrifon cywir” o amgylch y rhodd.

Cafodd dros £52,000 ei roi i’r blaid gan yr Arglwydd Brownlow am y gwaith y talwyd amdano ar y dechrau gan Swyddfa’r Cabinet.

Dywedodd llefarydd ar ran y Torïaid fod y blaid yn ystyried a ddylid apelio ac y byddai’n gwneud penderfyniad o fewn 28 diwrnod.

Fe ffrwydrodd ffrae yn gynharach eleni ynghylch sut y talwyd am adnewyddu’r fflat y mae Boris Johnson yn ei rhannu gyda’i wraig.

Mae’r Prif Weinidog yn derbyn grant cyhoeddus blynyddol o £30,000 i’w wario ar ei letygarwch.

Honnodd Dominic Cummings, cyn-brif ymgynghorydd Boris Johnson, fod y Prif Weinidog wedi bwriadu cael rhoddwyr i “dalu’n gyfrinachol” am y gwaith.

Ond mynnodd y prif weinidog ei fod wedi “talu’r costau” o’i boced ei hun.

Boris Johnson yn ymddiheuro am y fideo o staff Downing Street yn jocian am barti Nadolig

Dywedodd arweinydd Llafur, Keir Starmer, fod y Prif Weinidog yn trin probl fel “ffyliaid” ac y dylai gyfaddef y bu parti anghyfreithlon