Mae un o weinidogion Defra yn dweud eu bod hi’n “gofidio” am ffermwyr yn yr Alban am fod y llywodraeth ddatganoledig “yn eu dal nhw’n ôl”.
Yn ôl Victoria Prentis, gweinidog yr amgylchedd yn San Steffan, dydy’r ffermwyr ddim yn elwa o’r “chwyldro mewn cefnogaeth amaethyddol”.
Ond mae’r SNP wedi cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o “fynd yn y ffordd” pan ddaw i gynhyrchiant.
“Ymhell o helpu ffermwyr i gynyddu cynhyrchiant, mae’r Llywodraeth hon yn dangos ei hawydd brwd i fynd yn ffordd cynhyrchiant,” meddai Dave Doogan, llefarydd amaeth a materion gwledig yr SNP.
Mae e wedi rhestru nifer o bryderon, gan gynnwys “argyfwng” allforio moch i Tsieina, tystysgrifau iechyd allforion ar nwyddau Albanaidd yn mynd i’r Undeb Ewropeaidd ond nid i’r cyfeiriad arall, a phrinder “difrifol” llafur.
“A fyddai’r gweinidog yn hoffi ymddiheuro wrth ffermwyr yn yr Alban ac amlinellu sut mae hi’n bwriadu gwella’r ddeinameg hon?” meddai.