Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod nhw’n ariannu cyfres o sesiynau hyfforddi Iaith a Hanes LGBTQ+ i staff amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd.

Y bwriadu yw cefnogi sefydliadau yng Nghymru i fod yn fwy cynhwysol a chynrychioli treftadaeth a llenyddiaeth LGBTQ+ yn well yn eu casgliadau

Mae’r fenter newydd yn cefnogi Cynllun Gweithredu LGBTQ+ Llywodraeth Cymru sy’n nodi cynlluniau i:

  • fynd i’r afael ag anghydraddoldebau a brofir gan gymunedau LGBTQ+
  • herio gwahaniaethu
  • creu cymdeithas lle mae pobl LGBTQ+ yn ddiogel i fyw a charu

Mae Norena Shopland, hanesydd ac awdur blaenllaw, a’r addysgwr tegwch a sylfaenydd Pride in Education, Laila El-Metoui, wedi dylunio pum sesiwn ac yn eu darparu i roi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i staff.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd yr hyfforddiant yn darparu pwyntiau dysgu effeithiol ac offer ymarferol i alluogi staff i symud ymlaen gyda rhaglen gwbl gynhwysol a gwirioneddol gynrychioliadol.

“Rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod ein hamgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau lleol yn gweithio gyda’n cymunedau LGBTQ+ yng Nghymru i arddangos, rhannu a dathlu eu hanes a’u straeon,” meddai Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon.

“Mae rhai enghreifftiau gwych o’r sefydliadau hyn yn gweithio gyda chymunedau LGBTQ+ – fel Amgueddfa Llandudno ac Archifau Morgannwg – ond rydym yn awyddus i sicrhau bod lleoliadau lleol ledled y wlad yn fwy cynrychioliadol o’r gymuned yn eu casgliadau, eu hadnoddau, eu digwyddiadau a’u rhaglenni arddangos.

“Y fenter newydd hon rydym yn ei chyhoeddi heddiw yw dechrau’r broses honno.”

‘Cydnabod a hyrwyddo hanes LGBTQ+’

“Dros y deng mlynedd diwethaf mae arddangos cyfeiriadedd rhywiol a hanes hunaniaeth rhywedd (y cyfeirir ato’n aml fel hanes LGBTQ+) wedi cynyddu’n fawr,” meddai Norena Shopland.

“Fodd bynnag, mae’r cynnydd hwn yn tueddu i gael ei sbarduno gan nifer fach o unigolion a sefydliadau.

“Diffyg ymgyfarwyddo â’r pwnc; ychydig o ddealltwriaeth o ddefnydd, cymhwysiad a chydnabyddiaeth o iaith hanesyddol; ofn achosi tramgwydd; a phobl LGBTQ+ yn anaml yn ymweld ag amgueddfeydd neu archifau lleol, yw rhai o’r prif resymau sy’n achosi anawsterau wrth ymchwilio, cydnabod a hyrwyddo hanes LGBTQ+.”