Mae cynghorydd yn Sir Gaerfyrddin wedi defnyddio araith gan y chwaraewr rygbi Phil Bennett i feirniadu cwmni glo brig, gan bwysleisio bod Lloegr wedi mynd â hen ddigon o adnoddau oddi ar Gymru heb roi unrhyw beth yn ôl.
Roedd y Cynghorydd Dai Thomas yn siarad am araith y cyn-faswr cyn gêm Cymru yn erbyn Lloegr yn 1977 wrth gyfeirio at gwmni Celtic Energy, sydd yng nghanol ffrae â’r awdurdodau ynghylch ailosod ffyrdd a mynediad i’r cyhoedd ar safle Gilfach Iago rhwng Rhydaman a Cross Hands.
Cafodd argymhelliad ei gyflwyno i’r Cyngor a Celtic Energy rannu’r gost er mwyn dirwyn ffrae i ben ar ôl 20 mlynedd.
Pleidleisiodd cynghorwyr i dderbyn y cynllun, a fyddai’n gofyn am gyfraniad o £130,000 gan y Cyngor ar ben y £320,000 sydd wedi’i gynnig gan y cwmni yng Nghaerffili.
“Dyma ni gwmni Cymreig sydd wedi addo’r ddaear a heb roi unrhyw beth,” meddai, gan ddweud bod cymunedau a gafodd eu heffeithio gan safle glo brig 134 hectar wedi’u “dinistrio” rhwng 1988 a 1998, gyda Celtic Energy wedi cymryd perchnogaeth o’r safle yn 1994.
Cefndir ac ymateb
Roedd disgwyl i bob ffordd ond un gael eu hailosod gan y cwmni, ond dydy’r gwaith ddim wedi’i gwblhau wrth iddi droi’n ffrae gyfreithiol a chynllunio, proses a gafodd ei chymhlethu wrth i Celtic Energy rannu’r tir yn 17 parth a gwerthu 16 ohonyn nhw.
Yn ôl y Cynghorydd Dai Thomas, sy’n cynrychioli ward Pen-y-Groes a gafodd ei effeithio gan y gwaith glo brig, y datrysiad diweddaraf yw’r “gorau y gallwn ni obeithio amdano”.
Yn ôl y Cynghorydd Carl Harris, mae trigolion lleol o’r farn na fydden nhw’n credu y byddai mynediad i’r cyhoedd yn cael ei adfer hyd nes eu bod nhw’n gweld ei fod e wedi digwydd, ac nad yw’n gweld bai arnyn nhw.
Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny ei bod hi’n “warthus” nad oedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi mynnu bond adfer ar gyfer Gilfach Iago o’r dechrau’n deg, ac roedd yn cofio ffilmio ar y safle cyn i’r peiriannau ddod i mewn.
Mae’r Cynghorydd Rob James wedi galw am sicrwydd y byddai Celtic Energy yn talu’r £320,000 a dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans fod rhaid credu’r cwmni, ond dywedodd nad oes angen disodli’r ffyrdd gan fod rhai newydd wedi’u creu a bod gwelliannau wedi’u gwneud i’r ffyrdd cyfagos.
Dywedodd y Cynghorydd Dai Nicholas ei bod hi’n bwysig i’r gymuned leol yng Ngilfach Iago fanteisio cymaint â phosib ar y cynllun.
“Mae’r ardal yn dychwelyd i’w harddwch naturiol,” meddai.
Yn ôl llefarydd ar ran Celtic Energy, maen nhw’n “falch fod diweddglo boddhaol i’r materion oedd heb eu datrys ar y safle a gafodd ei etifeddu gan British Coal yn 1994”.