Mae Prif Swyddog Milfeddygol y Deyrnas Unedig yn dweud bod “lefel aruthrol” o ffliw adar yn y wlad yn dilyn difa degau o filoedd o adar fferm.
Cafodd Parth Atal Ffliw Adar ei ddatgan ledled y Deyrnas Unedig ar Dachwedd 3, cyn cael ei ymestyn ar Dachwedd 29, gyda’r gofyniad ychwanegol bod yn rhaid cadw pob aderyn caeth dan do, yn sgil pryderon bod adar gwyllt sy’n mudo o dir mawr Ewrop yn ystod y gaeaf yn cario’r clefyd.
Mae 40 o safleoedd heintiedig yn y Deyrnas Unedig, yn ôl Christine Middlemiss.
Mae ffliw adar hefyd wedi’i ganfod mewn sawl ardal yng Nghymru megis Ceredigion, Wrecsam ac Ynys Môn.
Mae’r risg i iechyd pobol o ffliw adar yn parhau’n isel iawn, yn ôl cyngor iechyd cyhoeddus, ac mae risg isel o ran diogelwch bwyd.
Goblygiadau’r ffliw
Dywedodd Dr Christine Middlemiss wrth y BBC fod gan “lefel aruthrol” o ffliw adar “oblygiadau dynol, anifeiliaid a masnach enfawr”.
Dywedodd fod y clefyd yn cael ei ledaenu gan adar mudol sy’n hedfan yn ôl o ogledd Rwsia a dwyrain Ewrop, a mynnodd fod angen ymchwil pellach i atal achosion sy’n gwaethygu yn y dyfodol.
“Allwn ni ddim aros blwyddyn arall a chael hyd yn oed mwy o achosion. Felly, byddwn yn gweithio nid yn unig gyda’n gwyddonwyr ein hunain ond yn rhyngwladol, i ddeall mwy o’r hyn y gallwn ei wneud am yr hyn sydd y tu ôl iddo,” meddai.
Rhybuddiodd y milfeddyg mai dim ond ychydig wythnosau i mewn i dymor mudol sy’n digwydd tan fis Mawrth y mae’r Deyrnas Unedig.
“Bydd angen i ni gadw i fyny’r lefelau hyn o fioddiogelwch uwch am yr holl amser hwnnw,” meddai.
Difa
Dywedodd wrth raglen Today ar BBC Radio 4 fod 40 o safleoedd heintiedig yn y Deyrnas Unedig, gan ychwanegu bod tua hanner miliwn o adar wedi cael eu difa hyd yn hyn.
Yn ogystal â chadw adar a dofednod yn gaeth, mae’r parth gwarchod yn golygu bod yn rhaid i geidwaid barhau i gymryd rhagofalon megis glanhau a diheintio dillad, offer a cherbydau yn rheolaidd a chyfyngu ar fynediad i weithwyr ac ymwelwyr nad ydynt yn hanfodol.
Mae Defra wedi dweud y bydd y mesurau tai newydd yn cael eu hadolygu’n rheolaidd.