Mae Seland Newydd yn ystyried cyflwyno deddfwriaeth a fyddai’n atal unrhyw un o dan 80 oed rhag prynu sigaréts ymhen 65 mlynedd.
Eu bwriad yw atal unrhyw un sydd o dan 14 oed rhag prynu pan ddaw’r ddeddf i rym, ond cynyddu’r oedran bob blwyddyn i 15, 16, 17 ac yn y blaen.
Byddai hynny’n golygu na fyddai neb o dan 80 oed yn cael prynu sigaréts ymhen 65 mlynedd pe bai’r oedran yn parhau i gynyddu bob blwyddyn – ac y gall fod angen i unrhyw un dros 80 oed brofi eu hoedran.
Ond mewn gwirionedd, y gobaith yw y byddai’r arfer o ysmygu wedi hen ddod i ben erbyn hynny, a’r nod yw sicrhau bod llai na 5% o drigolion y wlad yn ysmygu erbyn 2025.
Ymhlith y mesurau eraill dan ystyriaeth mae gwerthu cynnyrch â lefel isel o nicotîn yn unig, a gostwng nifer y siopau sy’n eu gwerthu.
Ymateb y llywodraeth
Wrth siarad ag Associated Press, dywedodd Dr Ayesha Verrall, Gweinidog Iechyd Cysylltiol Seland Newydd ac arweinydd y cynlluniau, fod rhoi diagnosis o ganser i gleifion yn rhan annatod o’i gwaith.
Mae hi’n dweud ei bod hi’n cyfarfod pobol bob dydd sy’n “wynebu diflastod sy’n cael ei achosi gan dybaco”.
Ond mae cyfraddau ysmygu wedi gostwng yn y wlad dros y blynyddoedd, gyda dim on 11% o oedolion yn ysmygu, a dim ond 9% yn ysmygu bob dydd.
Ond fel patrymau iechyd ar y cyfan, mae cyfraddau’n sylweddol uwch ymhlith y Maori, gyda 22% ohonyn nhw’n ysmygu o hyd, ac un o gynlluniau’r llywodraeth yw sefydlu gweithgor i helpu i ostwng y cyfraddau.
Mae trethi ar sigaréts wedi codi dros y blynyddoedd, ac mae rhai yn gofyn iddyn nhw gael eu codi eto, ond dywed Dr Ayesha Verrall na fydd hyn yn cael effaith sylweddol ar y sefyllfa gan y byddai’n cosbi pobol ar incwm isel, sef y rhai sy’n fwyaf tebygol o ysmygu.
Does dim disgwyl i’r ddeddfwriaeth newydd effeithio pobol sy’n defnyddio e-sigaréts, gan fod y llywodraeth yn credu eu bod nhw’n ffordd dda o helpu pobol i roi’r gorau i ysmygu – dim ond pobol dros 18 oed sy’n cael eu prynu nhw yn y wlad, ac mae’r arfer wedi’i wahardd mewn ysgolion.
Ymateb siopau
Mae siopau yn poeni am y ddeddfwriaeth newydd a allai olygu bod nifer yn mynd i’r wal os ydyn nhw’n dibynnu ar werthiant tybaco.
Yn ôl Sunny Kaushal, cadeirydd Grŵp Perchnogion Llaeth a Busnes, gallai’r ddeddfwriaeth gael cryn effaith ar fusnesau ledled y wlad.
“Ni ddylai ddigwydd fel ei fod yn dinistrio llaethdai, bywydau a theuluoedd yn y broses,” meddai.
“Nid dyna’r ffordd.”
Mae’n poeni bod cynyddu trethi’n creu “marchnad ddu” ar gyfer tybaco sy’n cael ei hecsbloetio gan gangiau, ac mae’n disgwyl i’r arfer o ysmygu ddirwyn i ben yn naturiol ymhen rhai blynyddoedd beth bynnag.
“Mae hyn yn cael ei yrru gan academyddion,” meddai am y cynlluniau, gan ddweud na fu ymgynghoriad â rhanddeiliaid.