Mae prosiect treftadaeth a chadwraeth yng Nghwm Cynon, sy’n defnyddio garddio a natur fel ffordd o wella sgiliau a lles cyflogadwyedd pobol, wedi’i henwi’n Brosiect y Flwyddyn Loteri Genedlaethol Cymru 2021.

Llwyddodd prosiect Cadwraeth a Threftadaeth y Fali Gwyrdd yn Abercynon, Rhondda Cynon Taf, i guro cystadleuaeth stiff gan fwy na 1,500 o sefydliadau i gyrraedd y cam pleidleisio cyhoeddus yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol eleni, sy’n dathlu’r bobol a’r prosiectau ysbrydoledig sy’n gwneud pethau eithriadol gyda chymorth arian y Loteri Genedlaethol.

Daeth y prosiect i’r amlwg fel enillydd Cymru yn dilyn pleidlais gyhoeddus yn gynharach eleni.

Mae prosiect Cadwraeth a Threftadaeth y Fali Gwyrdd yn helpu pobol yn Abercynon i wella eu sgiliau cyflogadwyedd a’u lles drwy arddio a thrwy eu cysylltu â natur.

Dair blynedd yn ôl, roedd safle Antur Organig Cwm Cynon, sydd bellach yn gartref i brosiect Cadwraeth a Threftadaeth y Fali Gwyrdd, mewn cyflwr gwael.

Erbyn heddiw, diolch i gefnogaeth £20,000 o gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac ymdrechion llawer o wirfoddolwyr, mae wedi’i thrawsnewid yn ardd gymunedol gyda mannau tyfu bwyd ar gyfer eu banc bwyd, caffi, ysgol haf a champfa werdd.

Maen nhw hefyd yn darparu gweithgareddau a rhaglenni awyr agored ar gyfer pobol ifanc sydd wedi ymddieithrio, ac yn gweithio’n agos gyda phobol ifanc sydd ag awtistiaeth ac unrhyw un sy’n profi problemau iechyd meddwl.

Mae’r prosiect wedi creu cysylltiadau eang â grwpiau cymunedol, rhwydweithiau cymorth awtistiaeth, canolfannau gwaith ac ysgolion, ac mae’n derbyn atgyfeiriadau presgripsiwn cymdeithasol gan feddygfeydd teulu. Mae’r pwyslais ar fanteisio ar fuddiannau o fyd natur i wella lles a chyflogadwyedd.

‘Llawer mwy na gardd gymunedol’

“Rydym wrth ein bodd bod ein prosiect wedi ennill y Wobr Loteri Genedlaethol hon ac wedi derbyn y gydnabyddiaeth wych hon,” meddai Janis Werrett, Cyfarwyddwr a Sylfaenydd Antur Organig Cwm Cynon.

“Mae’n fwy pleserus fyth i’r cyhoedd bleidleisio drosom. Mae’r wobr hon yn diolch mawr iawn i ymroddiad pawb a wnaeth y prosiect hwn yn bosibl.

“Mae’n llawer mwy na gardd gymunedol – dwi’n gweld pobol yn tyfu drwy’r amser ac yn gwylio’r holl newidiadau bach hynny ynddyn nhw na fydden nhw efallai’n eu gweld ynddyn nhw eu hunain.

“Pan ymgymeron ni â’r safle am y tro cyntaf yn 2018, dywedwyd wrthym ei fod yn risg am ei fod mewn cyflwr mor wael.

“Nid oedd gennym arian, ac nid oedd gennym syniad o ble y byddai’n dod.

“Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth arian y Loteri Genedlaethol a chymorth ein gwirfoddolwyr ymroddedig sydd wedi gweithio’n ddiflino i adfer a diogelu’r adnodd gwerthfawr hwn i’w cymuned.”