Bydd 14 ysgol yng Nghymru yn cymryd rhan mewn cynllun i dreialu cynnal sesiynau ychwanegol yn ystod y diwrnod ysgol.
Bydd yr ysgolion dan sylw yn cael eu hariannu i ddarparu pum awr ychwanegol o weithgareddau’r wythnos i ddysgwyr.
Mae Jeremy Miles, yr Ysgrifennydd Addysg, wedi cyhoeddi y bydd £2m yn mynd tuag at y cynllun peilot, gyda sesiynau fel celf, cerddoriaeth, a chwaraeon, yn ogystal â sesiynau academaidd craidd, yn rhan o’r cynllun.
Bydd y cynllun yn adlewyrchu addewid Llywodraeth Cymru i ystyried diwygio’r diwrnod a’r flwyddyn ysgol.
Penaethiaid yn penderfynu
Penaethiaid yr ysgolion fydd yn penderfynu sut a beth i’w gyflwyno ymhob ysgol yn ystod y cyfnod treialu, gan ystyried anghenion lleol.
Bydd posib i’r ysgolion drefnu bod y sesiynau ychwanegol yn cael eu cynnal drwy gontract allanol os bydd angen, neu mae’n bosib iddyn nhw addasu gweithgareddau sy’n bodoli’n barod, megis clybiau ar ôl ysgol.
Mae disgwyl i’r cynllun ddechrau yn y gwanwyn, a phara am hyd at ddeg wythnos, a bydd yn canolbwyntio ar gefnogi disgyblion ac ysgolion sydd wedi’u heffeithio waethaf gan y pandemig.
Mae’r cynlluniau wedi cael eu dylanwadau gan fodelau rhyngwladol, a’r cynigion gafodd eu gwneud gan y Sefydliad Polisi Addysg.
Bydd y gwaith yn cael ei wneud ar y cyd â Grŵp Senedd Plaid Cymru, fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhyngddyn nhw a’r Blaid Lafur.
Fe fydd ysgolion cynradd ac uwchradd, gan gynnwys rhai ym Mlaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Rhondda Cynon Taf a Chastell-nedd Port Talbot, yn rhan o’r cynllun.
‘Gweithgareddau cyffrous’
Dywed Jeremy Miles ei fod yn benderfynol o edrych ar strwythur y diwrnod a’r flwyddyn ysgol “er mwyn sicrhau eu bod er budd gorau llesiant y dysgwyr a’r staff, yn lleihau anghydraddoldebau addysgol, ac yn sicrhau’r canlyniadau gorau i bob dysgwr”.
“Rydyn ni’n gwybod y gall cefnogi dysgwyr i elwa ar ystod estynedig o weithgareddau, gan gynnwys y celfyddydau a chwaraeon yn ogystal â gweithgareddau cymdeithasol a rhaglenni academaidd, fod yn dda ar gyfer cyrhaeddiad, lles a chydberthynas ehangach dysgwyr,” meddai.
“Rwy’n ariannu’r ysgolion a fydd yn cymryd rhan yn y cynllun treialu er mwyn iddyn nhw ddarparu gweithgareddau cyffrous ar gyfer y diwrnod ysgol.
“Rydyn ni am i’r gweithgareddau hynny eu helpu i ddatblygu sgiliau personol a meithrin gwydnwch, a fydd hefyd yn effeithio ar gyrhaeddiad academaidd.
“Cyfnod treialu fydd hwn, felly byddwn ni’n gweithio’n agos gydag ysgolion ac awdurdodau lleol i werthuso’r effaith ar ddysgwyr a materion eraill sy’n gysylltiedig â diwygio’r diwrnod ysgol.
“Rwy’n falch ein bod ni’n gweithio gydag awdurdodau lleol i benderfynu ar yr ysgolion a fydd yn cymryd rhan. Byddwn ni’n cyhoeddi rhagor o fanylion maes o law.”
Fe wnaeth y Gweinidog hefyd gadarnhau y bydd trafodaethau yn digwydd dros y misoedd nesaf gyda phobol ifanc, teuluoedd, staff addysg a busnesau i weld beth yw eu barn am ad-drefnu dyddiadau’r tymor ysgol.
‘Manteision sylweddol’
Roedd Sefydliad Polisi Addysg (EPI) yn dweud bod tystiolaeth yn dangos bod treulio mwy o amser yn yr ysgol yn hybu cyrhaeddiad os yw’n cael ei weithredu’n gywir.
“Sefydlu treial yng Nghymru i weld sut gallai ymestyn oriau ysgol weithio’n ymarferol yw’r dull cywir,” meddai Luke Sibieta o’r EPI.
“Bydd hyn yn ein galluogi ni i ddysgu am rinweddau dulliau gwahanol mewn ysgolion, yr adnoddau sydd eu hangen, ac unrhyw rwystrau.
“Os bydd yn llwyddiannus, gallai fod manteision sylweddol, gan gynnwys helpu disgyblion difreintiedig i ddal i fyny ar eu cynnydd addysgol a rhoi mwy o amser i’r celfyddydau a chwaraeon.”
Ar y llaw arall, roedd undeb NAHT Cymru yn codi pryderon ynglyn ag amseru’r cynlluniau o ystyried y pwysau sydd eisoes ar ysgolion a dywedon nhw bod undebau heb gael dweud eu dweud yn y mater.
“Dim nawr yw’r amser i beilota prosiectau newydd pan mae ysgolion eisoes yn ei chael hi’n anodd, ac rydyn ni’n annog y Llywodraeth i ohirio unrhyw gynlluniau pellach i ad-drefnu.”