Mae achosion o’r Ffliw Adar wedi cael eu canfod mewn dau aderyn marw yng Ngheredigion.
Bu farw’r ddau aderyn y tu mewn i ffiniau Gwarchodfa RSPB Ynys-hir, ger pentref Eglwys-fach.
Adar gwyllt oedd y ddau, ac nid oes achosion o’r Ffliw Adar wedi’u canfod hyd yma mewn adar dof yn yr ardal.
Mae gwarchodfa RSPB Ynys-hir ynghau heddiw yn sgil yr achosion, ond yn ôl Cyngor Sir Ceredigion, mae mesurau yn cael eu rhoi ar waith i ddiogelu’r cyhoedd.
Mae’r cyhoedd yn cael eu hannog i osgoi’r ardal i atal unrhyw ledaeniad pellach posibl o’r haint, hyd nes y cyhoeddir rhagor o wybodaeth.
Er bod y risg o drosglwyddo’r haint rhwng adar a phobol yn isel iawn, mae Cyngor Sir Ceredigion yn dweud na ddylai pobol gyffwrdd ag unrhyw aderyn sydd wedi marw.
Parth Atal Ffliw’r Adar
Mae staff Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion wrthi’n cysylltu â ffermydd cyfagos i roi cyngor a chanllawiau iddyn nhw, ac maen nhw mewn cyswllt â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, a chydweithwyr mewn awdurdodau cyfagos.
Gall adar gwyllt sydd wedi’u heintio â Ffliw Adar arwain at heintio lleoliadau lle mae dofednod, adar hela, adar anwes, neu unrhyw adar dof eraill yn cael eu cadw.
Mae yna Barth Atal Ffliw Adar mewn grym dros Gymru, a’r Deyrnas Unedig gyfan ar funud, yn sgil canfod nifer o achosion, gan gynnwys rhai yn Wrecsam.
Yn unol â’r Parth Atal, mae’n ofyniad cyfreithiol ar bawb sy’n cadw adar i gadw at fesurau bioddiogelwch llym i ddiogelu’u hadar.
Dylai unrhyw un sy’n cadw dofednod gadw llygad am unrhyw arwyddion o’r haint hefyd, gan gynnwys mewn adar sydd newydd farw, gan roi gwybod am unrhyw amheuon i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.
Mae’r symptomau’n cynnwys pennau chwyddedig, lliw glas ar y grib a’r dagell, rhedlif o’r llygaid neu’r trwyn, syrthni, diffyg chwant bwyd, trafferth anadlu, dolur rhudd, a gostyngiad sylweddol mewn wyau.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Gyllid a Gwasanaethau Diogelu’r Cyhoedd: “Er nad oes gofyniad wedi cael ei gyhoeddi hyd yma ei bod yn hanfodol cadw adar dof i mewn, cynghorir pobl sy’n cadw adar ar ffermydd dofednod mawr a’r rheiny sydd ag adar dof yng nghyffiniau’r warchodfa natur i ystyried cadw eu hadar dan do mewn man caeedig.”