Mae Cymdeithas Awtistiaeth Cymru yn galw am wneud eithriadau pàs Covid yn rhan o’r gyfraith, yn hytrach na’u cynnwys mewn canllawiau’n unig.
Yn ôl y gymdeithas, mae rhai pobl awtistig yn ofni cael pigiad ac felly heb dderbyn y brechiad Covid-19.
Golyga hyn na allant gael Pàs Covid y Gwasanaeth Iechyd, ac yn ôl y gymdeithas mae hyn yn rhoi straen ar deuluoedd.
Yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru mae hawl gan y bobl hyn gael eu heithrio.
Ond yn ôl Chris Haines o Gymdeithas genedlaethol Awtistiaeth Cymru nid yw hyn yn mynd yn ddigon pell.
“Yn debyg i ganllawiau masgiau wyneb, credwn y dylid nodi’r eithriad hwn yng nghyfraith Cymru, yn ogystal â chanllawiau, i ddiogelu hawliau pobl awtistig,” meddai wrth Golwg360.
“Rydym yn croesawu cyflwyno eithriad i’r rhai na allant gael pàs am resymau meddygol ond hoffem weld y canllawiau a’r broses yn cael eu cryfhau, gyda gwersi a ddysgwyd gan fannau eraill yn y DU.
“Yn Lloegr, er enghraifft, mae’r broses eithrio ar sail rhesymau meddygol yn gliriach ac mae’r canllawiau’n cynnwys cyfeiriad at grwpiau sy’n cael eu heffeithio arnynt fel pobl awtistig.
“Tra yn yr Alban os ydych wedi eich eithrio fe fyddan nhw’n derbyn tystysgrif drwy’r post er mwyn iddyn nhw ddangos eu bod wedi eithrio.”
Ymestyn Pasys
Gyda’r Senedd yn pleidleisio o blaid ymestyn pasys Covid i theatrau a sinemâu’r wythnos hon mae Chris Haines yn dweud bod angen i’r Llywodraeth wella darpariaeth ddigidol y pasys i ddangos fod rhywun wedi eu heithrio.
“Rydym hefyd yn pryderu bod y pàs wedi’i ymestyn i fwy o leoliadau tra bod dim system ddigidol i gofnodi eithriadau meddygol ar gael o hyd.
“Yn y cyfamser, mae’n hanfodol bod lleoliadau’n cydnabod yr eithriad hwn.”
Mae’r mater wedi ei godi gan Heledd Fychan, AoS Plaid Cymru dros Ganol De Cymru ar lawr y Senedd.
“Rydym yn ymwybodol fod hyn yn effeithio ar nifer fach o bobl yng Nghymru nad ydynt yn gallu cael brechiad na’n gallu cymryd prawf llif unffordd,” meddai.
“Ond credaf, o edrych ar y sefyllfa yn Lloegr ble mae llawer mwy o eglurder yn ogystal â’r gallu i gael pàs digidol hyd yn oed gydag eithriad, y byddai hyn yn rhoi sicrwydd na fydd neb yn cael ei eithrio wrth i hyn gael ei gyflwyno a’i ymestyn ymhellach.”
Fe ddywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, yr wythnos ddiwethaf fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu “edrych mewn hyn i weld os oes rhywbeth y gallan nhw wneud.”