Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi derbyn ei frechlyn atgyfnerthu Covid-19 heddiw (11 Tachwedd).

Derbyniodd y brechlyn yng Nghanolfan Brechu Torfol Bayside ym Mae Caerdydd, ac wrth siarad wedyn dywedodd ei fod yn annog pawb sy’n cael cynnig trydydd brechlyn i’w dderbyn.

“Hoffwn i ddiolch i holl staff a gwirfoddolwyr y Gwasanaeth Iechyd sydd wedi gweithio’n ddiflino dros y misoedd diwethaf i sicrhau bod y rhaglen frechu wedi bod yn gymaint o lwyddiant yma yng Nghymru,” meddai’r Prif Weinidog.

“Rwy’n annog pawb sy’n cael cynnig brechiad atgyfnerthu i ddod i’w hapwyntiadau.

“Mae’n rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i gadw pawb yn ddiogel gan fod y coronafeirws yn dal gyda ni.”

“Cefnogi’r Gwasanaeth Iechyd”

Yn ystod cynhadledd i’r wasg ddydd Mawrth (9 Tachwedd), dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan, bod y byrddau iechyd yn gweithio’u ffordd drwy bobol sy’n gymwys am frechlyn mewn trefn blaenoriaeth.

Bydd y bwrdd iechyd yn cysylltu’n awtomatig â phobol sy’n gymwys, meddai, gan annog pobol sy’n gymwys i’w dderbyn.

Hyd at ddydd Mawrth roedd mwy na hanner miliwn o bobol wedi derbyn eu brechiad atgyfnerthu yng Nghymru, gan gynnwys tri chwarter preswylwyr cartrefi gofal, mwy na hanner rheiny sydd rhwng 70 a 74 oed, a mwy na chwarter y grŵp oedran 65 i 69.

“Gallwn gefnogi’r Gwasanaeth Iechyd y gaeaf hwn drwy reoli lledaeniad y coronafeirws ac atal rhagor o bobl rhag bod yn ddifrifol wael gyda Covid-19,” meddai Eluned Morgan.

“Gallwn ni wneud hyn drwy sicrhau ein bod wedi cael y ddau ddos o’r brechlyn Covid-19 a chael brechiad atgyfnerthu’r hydref hefyd os ydyn ni’n gymwys.”

Hwblyn, hyblyn, Yr Hwb?

Mae Dr Eilir Hughes, sy’n feddyg teulu yn Nefyn, wedi bathu’r term ‘hwblyn’ fel cyfieithiad Cymraeg ar gyfer ‘booster vaccine’, gyda’r term yn achosi cryn drafod ymysg pobol ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae eraill wedi awgrymu y dylid ei alw’n ‘hyblyn’, neu ‘Yr Hwb’, ac mae’r bardd Annes Glynn wedi ysgrifennu cerdd amdano hyd yn oed.

“Be goblyn ’di hwblyn, Doc?”

Mae hyn yn destun dadlau,

Ond draw yn Nefyn herio’r cloc

Wna Eilir, nid trin geiriau.