Bydd un o Bwyllgorau’r Senedd yn ymchwilio i sefyllfa ail gartrefi yng Nghymru.
Er mwyn gwneud hynny, mae Aelod o’r Senedd yn gofyn i bobol rannu eu barn am waith Llywodraeth Cymru yn y maes hwn, ac am effaith ail gartrefi ar economi, cymdeithas a diwylliant lleol.
Ddydd Sadwrn (13 Hydref), bydd Rali Nid yw Cymru ar Werth yn cael ei chynnal tu allan i’r Senedd yng Nghaerdydd er mwyn galw ar y Llywodraeth i weithredu ar sefyllfa ail dai.
Mae Osian Jones wrthi yn beicio lawr o Gaernarfon i Gaerdydd, a bydd yn danfon llythyr ar ran Cymdeithas yr Iaith i’r Senedd ddydd Sadwrn yn nodi pryderon pobol am ddyfodol eu cymunedau.
Yr ymchwiliad
Mae Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai’r Senedd eisiau clywed gan amrywiaeth o bobol sy’n gysylltiedig â’r mater, gan gynnwys prynwyr tro cyntaf, grwpiau cymunedau, busnesau lleol a pherchnogion ail gartrefi.
Diben yr ymchwiliad yw edrych yn fanwl ar yr argymhellion wnaeth Dr Simon Brooks yn ei adroddiad ar ail gartrefi, gan graffu ar yr hyn mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud yn barod.
Fel rhan o’r ymchwil, maen nhw’n awyddus i glywed lleisiau a phrofiadau pobol sy’n cael eu heffeithio gan y sefyllfa er mwyn gweld a ydyn nhw ar y trywydd iawn.
Yn ogystal, bydd yr ymchwiliad yn ceisio llenwi bylchau mewn tystiolaeth am y sefyllfa, gan fod y wybodaeth am effeithiau bod yn berchen ar sawl eiddo yn seiliedig ar hanesion anecdotaidd, i raddau helaeth, ar y funud.
“Pwysig cael y ffeithiau”
Dywedodd John Griffiths, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ei bod hi’n “bwysig cael y ffeithiau”.
“Mae perchen ar ail gartref yn fater sydd wedi dod i amlygrwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf,” meddai John Griffiths.
“Rydym yn gwybod ei fod yn ennyn teimladau cryf i lawer o bobl – dyna pam mae hi mor bwysig cael y ffeithiau.
“Rydym am glywed gan bobl ledled Cymru sy’n gweld effeithiau ail gartrefi ar ein heconomi, ein cymdeithas a’n diwylliant, boed hynny’n gadarnhaol neu’n negyddol.
“Bydd eich lleisiau a’ch straeon yn ein helpu i amgyffred realiti’r sefyllfa yng Nghymru a sicrhau bod gennym y wybodaeth gywir ar gyfer craffu ar Lywodraeth Cymru.”
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi lansio ymgynghoriad am effaith ail gartrefi a llety gwyliau gan edrych ar drethi lleol ar eu cyfer. Mae’r ymgynghoriad hwnnw ar agor tan 17 Tachwedd.
Wrth alw am weithredu ar y sefyllfa, a sefyllfa llety gwyliau ac Airbnbs yn benodol, dywedodd y canwr Ceri Cunnington wrth golwg360 y gallai hyn fod yn “drobwynt” yn hanes gwleidyddol Cymru, pe bai’r Senedd yn cymryd camau i weithredu ar y sefyllfa.
Mae posib cyfrannu tuag at ymgynghoriad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai drwy wefan y Senedd, ac mae gan bobol nes 14 Ionawr 2022 i gyfrannu.