Mae gwasanaethau iechyd meddwl sydd ar gael am ddim yng Ngheredigion wedi cael eu hymestyn.

Daw hyn yn dilyn llwyddiant y prosiect peilot Yma i Chi, sydd wedi rhoi cyfle i bob person ifanc gael mynediad at wasanaeth therapi cyflym a chyfrinachol o fewn y sir.

Roedd y gwasanaeth hwnnw ar gael ar-lein i bobol ifanc rhwng 16 a 30 oed, gan roi cyfle i bobol sy’n byw mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell gael mynediad at wasanaeth hygyrch.

Cafodd y gwasanaeth gydnabyddiaeth gan y sector gofal yn lleol fel adnodd amhrisiadwy, ac roedd meddygon teulu wedi dechrau cyfeirio pobol ifanc at y gwasanaeth ar ôl cael adborth gan gleifion oedd wedi cymryd rhan yn y prosiect eisoes.

Roedd un a ddefnyddiodd y gwasanaeth yn ddienw yn “falch” ei fod wedi dod o hyd i’r gwasanaeth, gan ei fod “wedi bod ar restr aros y Gwasanaeth Iechyd ers blwyddyn a hanner.”

Ehangu’r prosiect

Roedd Yma i Chi yn cael ei redeg gan elusen ieuenctid Ceredigion, Area 43, ac yn cael ei gefnogi yn ariannol gan gynllun y Cyngor Sir, Cynnal y Cardi.

Mae cynllun Cynnal y Cardi yn ceisio “gwella cydnerthedd a hyrwyddo newid trawsffurfiol mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth a chymunedau gwledig”, gan dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.

“Mae’r Gwasanaeth Yma i Chi, a ariennir gan Cynnal Y Cardi, wedi helpu Area 43 i brofi model gweithredu ar gyfer cymorth i bobl ifanc,” meddai Rachel Eagles, Prif Swyddog Gweithredol Area 43.

“Gan fod y prosiect wedi’i gyflawni’n llwyddiannus, mae Area 43 wedi gallu ychwanegu’r prosiect hwn at ei gyfres o wasanaethau sy’n helpu pobol ifanc i fynd i’r afael â’u hanghenion iechyd meddwl.”

‘Gwaith hanfodol’

“Mae’r prosiect arloesol Yma i Chi wedi gwneud gwaith hanfodol wrth gefnogi iechyd meddwl ymysg pobl ifanc yng Ngheredigion,” meddai’r Cynghorydd Rhodri Evans, yr Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb am yr Economi ac Adfywio.

“Mae pawb sy’n ymwneud â chynllun LEADER Cynnal y Cardi ar gyfer Ceredigion yn falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi gwasanaeth mor amhrisiadwy sy’n gwneud gwahaniaeth mor fawr yng Ngheredigion.

“Rydym yn hynod falch bod y gwasanaethau a ddarperir o ganlyniad i’r prosiect yn gallu i barhau trwy’r comisiynu uniongyrchol a dderbyniwyd.”