Mae cynlluniau i gynyddu’r capasiti ar gyfer dod o hyd i unrhyw achosion o’r amrywiolyn Omicron yng Nghymru wedi cael eu cyhoeddi heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 9).

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyflwyno rhaglen ar gyfer profi am achosion tebygol o’r amrywiolyn Omicron ar draws labordai Gwasanaeth Iechyd Cymru.

Bydd gwasanaeth saith niwrnod yr wythnos yn cael ei gyflwyno mewn labordai er mwyn prosesu canlyniadau profion a phennu manylion am yr amrywiolyn o fewn 24 awr i dderbyn canlyniad positif.

Ynghyd â hynny, bydd Labordai Goleudy, sy’n gweithredu dan raglen brofi’r Deyrnas Unedig, yn defnyddio technoleg i ddod o hyd i fwtaniadau yn y feirws sy’n gysylltiedig ag Omicron.

Mae disgwyl i’r don o achosion Omicron gyrraedd ei brig yng Nghymru ddiwedd mis Ionawr yn ôl y modelau, meddai Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru.

‘Oedi lledaeniad Omicron’

Wrth gyhoeddi’r cynlluniau ar gyfer ehangu capasiti profi, dywedodd Eluned Morgan fod ymddangosiad yr amrywiolyn Omicron yn “rhybudd difrifol nad yw’r pandemig drosodd eto”.

“Mae’n bosibl bod yr amrywiolyn Omicron yn lledaenu’n llawer cyflymach nag amrywiolion eraill,” meddai.

“Rhaid inni oedi lledaeniad Omicron yng Nghymru ac i wneud hynny, mae angen inni weithredu’n gyflym ar gyfer dod o hyd i achosion ohono.

“Drwy gydol y pandemig, mae profion wedi chwarae rhan hollbwysig ac rydym am ddod o hyd i unrhyw achosion o’r amrywiolyn Omicron yma yng Nghymru yn gyflym.

“Bydd gwneud hyn, ochr yn ochr â’r mesurau eraill sydd eisoes ar waith, yn ein helpu ni i ddiogelu Cymru unwaith eto.”

Dydi hi ddim yn amlwg eto a yw Omicron yn achosi salwch mwy difrifol nag amrywiolyn Delta.

‘Cryfhau’r ymateb’

Hyd yn hyn, mae naw achos o’r amrywiolyn Omicron wedi cael eu cadarnhau yng Nghymru – wyth yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro, a’r llall yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn y de ddwyrain.

Ychwanegodd Dr Meng Khaw, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Diogelu Iechyd a Gwasanaethau Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru fod y newidiadau hyn “yn cryfhau’r ymateb i Covid yng Nghymru drwy ddod o hyd i achosion o’r amrywiolyn Omicron yn gyflym”.

“Diolch o waelod calon i’r holl staff yn ein labordai ym mhob cwr o Gymru, ac i’n partneriaid ar draws y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, sydd wedi gweithio’n ddiflino i gyflwyno’r gwelliannau hyn,” meddai.

“Mae pob canlyniad prawf Covid-19 positif yng Nghymru yn awr yn cael ei sgrinio fel mater o drefn i weld a yw’n achos o’r amrywiolyn Omicron.

“Hoffem atgoffa aelodau’r cyhoedd y gallant ein helpu i ddod o hyd i achosion o’r amrywiolyn Omicron yn gyflym, ac atal ei ledaeniad, drwy hunanynysu ar unwaith a threfnu i gael prawf coronafeirws yn rhad ac am ddim os byddant yn datblygu symptomau.

“Gallant hefyd helpu i amddiffyn eu hunain, eu cymunedau a’r GIG drwy dderbyn y cynnig o frechlyn.”

Bydd pob oedolyn cymwys yn cael eu gwahodd am frechlyn atgyfnerthu erbyn diwedd mis Ionawr, ond mae Llywodraeth Cymru yn annog pobol i fynd am eu brechlyn cyntaf neu ail hefyd gan ddweud nad yw hi “byth rhy hwyr”.

Cymru “ar drothwy ton aruthrol” o achosion Omicron, yn ôl Mark Drakeford

Pum achos sydd yng Nghymru ar hyn o bryd, ond mae disgwyl i’r ffigwr hwnnw godi’n sylweddol gan gyrraedd uchafbwynt ddiwedd mis Ionawr